Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl cyfeirnod
Ladas May (Known as Gladys WAAC / in Gelwid yn Gl Powell ( later Pritchard)
Man geni: Cwmaman
Gwasanaeth: Gweithwraig, WAAC/QMAAC, 24/05/1918 - 11/02/1920
Nodiadau: Roedd Ladas Powell dan oedran pan ymunodd â’r WAAC. Bu’n gwasanaethu yng ngwersyll Stonar, ger Sandwich, swydd Caint. Cadwodd Ladas, neu Gladys fel y’i gelwid yn y WAAC) albwm o luniau a dogfennau yn ogystal â chyfraniadau gan ffrindiau a chydweithwyr.
Cyfeirnod: WaW0044
Gladys Irene Pritchard (née Harris)
Man geni: Casnewydd
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Marwolaeth: TNT poisoning / Gwenwyno TNT
Nodiadau: Roedd Gladys yn weddw’r rhyfel 28 oed. Lladdwyd ei gŵr ym Mehefin 1916. Roedd ganddi ddau o blant bach. Derbyniodd ei thad 2s yr wythnos i fagu pob un plentyn; cafodd y plant fudd hefyd o bensiwn milwrol eu tad
Ffynonellau: http://1914-1918.invisionzone.com/forums
Cyfeirnod: WaW0045
Gladys Pritchard
Casglwyd llun Gladys gan Isbwyllgor Menywod yr Imperial War Museum yn rhan o’i chasgliad o fenywod a fu farw yn ystod y rhyfel.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am grant cynnal i dad Gladys, Joseph Harries, am fagu ei phlant. Weekly Argus 11 Tachwedd 1916.
May (Mary) Prosser
Man geni: Y Gilwern
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel, 1916 - 1917
Marwolaeth: 1917-04-03, Rochdale, TNT poisoning / Gwenwyno TNT
Cofeb: Giatiau Maes Chwarae; Neuadd farchnad; Christchurch Gofilon, Gofilon, Sir Fynwy
Nodiadau: Ganwyd May yn 1891, a hi oedd pedwaredd merch gweithiwr amaethyddol a’i wraig. Dilynodd ei dwy chwaer i weithio yn forwynion yn Rochdale. Dechreuodd weithio yn y ffatri arfau rhyfel yn 1916, ond cyn pen dim trawyd hi’n wael gan ‘glefyd melyn gwenwynig’ a bu farw yng nghartref ei chwaer yn Rochdale. Roedd hi'n hefyd chwaer Nellie Prosser [qv].
Ffynonellau: Ryland Wallace: May Prosser, Munitionette. AMC/WAW Newsletter, June 2016
Cyfeirnod: WaW0046
Doris Quane
Man geni: Ynys Mannaw
Gwasanaeth: Gweithwraig, QMAAC
Cofeb: Bedd Rhyfel, Boddelwyddan, Sir Ddinbych
Nodiadau: 28 oed. Claddwyd ym mynwent Sant Mihangel, Rhydaman
Ffynonellau: http://www.flintshirewarmemorials.com/memorials/bodelwyddan-memorial/canadians-2/quane-doris/
Cyfeirnod: WaW0047
Bedd rhyfel Doris Quane
Bedd rhyfel Doris Quane, QMAAC, wedi ei amgylchynu gan feddau milwyr o Ganada
Hannah Rees
Gwasanaeth: Nyrs, VAD
Cofeb: Rhestr Anrhydedd Capel y Garn, Rhydypennau, Ceredigion
Nodiadau: Ymddengys iddi wasanaethu a goroesi
Cyfeirnod: WaW0048
Capel y Garn
Enw Hannah Rees, Bronceiro, VAD, a wasanaethodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Rhestr Anrhydedd Capel y Garn
Rebecca Rees
Gwasanaeth: Nyrs, VAD
Cofeb: Rhestr Anrhydedd Capel y Garn, Rhydypennau, Ceredigion
Nodiadau: Ymddengys iddi wasanaethu a goroesi
Cyfeirnod: WaW0049
Capel y Garn
Enw Rebecca Rees, Bronceiro, VAD a wasanaethodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Coflech Capel y Garn
Ella Richards
Man geni: Llanbedr Pont Steffan
Gwasanaeth: Nyrs, VAD
Marwolaeth: 1918-10-14, Salonica, Pneumonia / Niwmonia
Cofeb: Cofeb Ryfel, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion
Nodiadau: 31 oed. Claddwyd yng nghladdfa Brydeinig Mikra, Salonica
Ffynonellau: Cambrian News and Merionethshire/Meirionnydd Standard 9 May/Mai 1919
Cyfeirnod: WaW0050
Adroddiad papur newydd
Sôn am Ella Richards mewn adroddiadau yn y Cambrian News a’r Merionethshire Standard 18 Gorffennaf 1919
Margaret Dorothy Roberts
Man geni: Dolgellau
Gwasanaeth: Nyrs staff, QAIMNS Reserve / Wrth gefn, 29/09/1915 - 31/12/1917
Marwolaeth: 1917-12-31, SS Osmanieh, Drowning
Cofeb: Cofeb y Nyrsys, Llanelwy, Sir y Fflint
Nodiadau: 47 0ed. Suddwyd HMS Osmanieh gan ffrwydryn Almaenig ger Alexandria, yr Aifft. Mae ei bedd yng Nghladdfa Goffáu'r Rhyfel Hadra Alexandria, Yr Aifft
Ffynonellau: http://www.flintshirewarmemorials.com/memorials/st-asaph-memorial/st-asaph-cathedral-welsh-nurses-ww1/roberts-margaret-dorothy/; http://emhs.org.au/person/roberts/margaret_dorothy
Cyfeirnod: WaW0051
Jane (Jennie) Roberts
Man geni: Bryncrug
Gwasanaeth: Nyrs staff, QAIMNS
Marwolaeth: 1917-04-10, HMHS Salta, Drowning / Boddi
Cofeb: Cofeb y Nyrsys, Llanelwy, Sir y Fflint
Nodiadau: 30 oed. Bu farw pan suddwyd Llong Ysbyty Ei Fawrhydi 'Salta' ger Le Havre ar 10 Ebrill 1917. Collwyd hi ar y môr ac ni chafwyd hyd i'w chorff. Gwelir ei henw ar Gofeb y Salta ym Mynwent y Santes Marie, Le Havre, Normandi, Ffrainc, ac ar blac coffa ym mhorth Eglwys Sant Cadfan, Tywyn
Cyfeirnod: WaW0052
Jane (Jennie) Roberts
Ffotograff o Jane/Jennie a gasglwyd gan Is-bwyllgor Menywod yr Imperial War Museum fel rhan o’i gasgliad a fenywod a fu farw yn ystod y Rhyfel
Annie Roberts
Man geni: Caergybi
Gwasanaeth: Aelod, WRAF, 14/05/1918 - d.
Marwolaeth: 1918-12-12, Pneumonia / Niwmonia
Cofeb: Cofeb Ryfel, Caergybi, Ynys Mon
Nodiadau: 20 oed, bu’n gwasanaethu yn ardal Caer. Claddwyd yng nghladdfa Caergybi (Maeshyfryd)
Cyfeirnod: WaW0053