Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl achos marwolaeth
Lilian Winstanley
Man geni: Manceinon ?
Gwasanaeth: Darlithydd, swffragydd, University College Aberystwyth / Coleg Prifysgol A, 1898 - 1941
Marwolaeth: 1960, Achos anhysbys
Nodiadau: Roedd Lilian Winstanley yn fyfyrwraig ddisglair yng Ngholeg Owen, Manceinion, un o adrannau cyfansoddol Prifysgol Victoria. Roedd yn swffragydd ac yn seilcwraig frwd pan oedd yn fyfyrwraig, a graddiodd â gradd ddosbarth 1af yn 1897. Yn 1898 symudodd i Aberystwyth gyda chyfeilles, Marion Benson [m. 1900], ac ymuno ag Adran Saesneg Coleg y Brifysgol, Aberystwyth yn ddarlithydd cynorthwyol. Yno y bu nes iddi ymddeol yn ddarlithydd hŷn yn 1941. Parhaodd ei diddordeb mewn rhyddfreinio menywod (gan ddarlithio er enghraifft i’r WSPU yn Preston, Swydd Gaerhirfryn, yn 1908). Roedd yn Aelod o Gymdeithas Socialaidd y Brifysgol ac wedyn o’r Blaid Ryddfrydol ac ysgrifennai’n rheolaidd i’r Welsh Gazette a Welsh Outlook, gan gynnwys ambell gerdd. Ysgrifennodd a golygodd lawer o lyfrau academaidd ac o leiaf un nofel. Gadawodd ei llyfrgell i’r Brifysgol pan fu farw yn 1960.
Cyfeirnod: WaW0454
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am anerchiad Lilian Winstanley i’r WSPU yn Prestin Welsh Gazette 16 ionawr 1908.
Cerdd
Cerdd ‘Land of Dante’ yn adlewyrchu ar oresgyniad Awstria o’r Eidal. Welsh Outlook Cyf. 2 rhif 9 Medi 1915
Mary Brebner
Man geni: anhysbys
Gwasanaeth: University College Aberystwyth, 1898 - 1919
Nodiadau: Graddiodd Mary Brebner yng Ngholeg Prifysgol Aberystwyth ac yna bu’n hyfforddi yng Ngholeg Hyfforddi i Fenywod Caergrawnt dan Elizabeth Phillips Hughes [qv]. Yna enillodd MA ym Mhrifysgol Llundain yn 1891. Ar ôl gweithio yn Llundain a Chymru bu’n teithio ar ysgoloriaeth. Mae ei llyfr The Method of Teaching Modern Languages in Germany yn dal mewn print, ac mae hi wedi cael ei disgrifio fel y fenyw fwyaf dylanwadol mewn dysgu ieithoedd tramor modern ym Mhrydain. Yn 1899 cafodd ei phenodi yn Ddarlithydd Cymorthwyol mewn ieithoed dmodern a Lladin yn Aberystwyth. Ddechrau’r Rhyfel roedd Dr Ethē, Athro Almaeneg yn Aberystwyth ers 1875 yn yr Almaen a wnaeth ei ddim dychwelyd oddi yno. Dyrchafwyd Mary yn ddarlithydd a rhedodd yr adran gydol y Rhyfel gan gynnwys yn sesiwn 1918-19 cyfnod welodd gryn anaswterau oherwydd y ffliw fawr. Yna ymddeolodd, a daeth dyn i’w holynu a bu’r byw ym Mhenmaenmawr, e rei bod yn dal ar fwrdd Prifysgol Cymru.
Cyfeirnod: WaW0451
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am MA Mary Brebner ym Mhrifysgol Llundain. South Wales Daily News 31st July 1893
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am benodi Mary Brebner i'r Coleg Prifysgol.Welsh Gazette 5th October 1899
Oliver Annie Wheeler
Man geni: Aberhonddu
Gwasanaeth: Addysgwraig a Seicolegydd
Marwolaeth: 1963, Achos anhysbys
Nodiadau: Addysgwyd Olive Wheeler yn Aberhonddu yn 1885 a mynychodd Ysgol Sir y Merched yno. Mae’n amlwg ei bod yn gyn-ferch i fri yn yr ysgol hi roddodd anerchiad yn ystod dathliadau’r brifathrawes, Miss Davies yn 1917. Bu’n fyfyrwarig yng Ngholeg Prifysgol Aberystwyth gan ennill gradd BSc in 1907 ac MSc yn 1911, a gwasanethodd yn Llywydd Cyngor Cynrychioliadol Y Myfyrwyr. Yna gadawodd am Goleg Bedford Llundain lle’r enillodd ei doethuriaeth. Ni wnaeth ddychwelyd i Gymru tan ddechrau’r 20einiau. Olynodd Millicent MacKenzie [qv] yn Ymgeisydd Llafur Prifysgolion Cymru yn etholiad 1922 a daeth yn Athro Addysg yng Nghaerdydd yn 1925. Yn 1914 dyrchafwyd hi’n Fonesig am ei gwasanaeth i Addysg
Cyfeirnod: WaW0452
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am bresenoldeb Olive Wheeler yn nathliadau Ysgol Sir Aberhonddu. Brecon and Radnor Express 2 Awst 1917.
Edith C Kenyon
Man geni: Doncaster
Gwasanaeth: Awdur
Marwolaeth: 1925, Achos anhysbys
Nodiadau: Roedd Edith C Kenyon yn ferch i feddyg a chafodd ran o’i magwraeth ym Mychynlleth. Roedd hi’n awdur nofelau i oedolion a phlant hynod doreithiog, ac weithiau lyfrau ffeithiol. Tua diwedd ei hoes ysgrifennodd nifer o nofelau rhamantaidd wedi’u hysbrydoli gan Gymru, â theitlau fel Nansi’s Scapegoat, The Winning of Glenora, The Wooing of Myfanwy, a The Marriage of Mari. Cyflwynwyd hon mewn cyfresi ymysg cryn hysbysrwydd yn y Cambria Daily Leader yn 1916. Edmygid ei defnydd o dirlun Ceredigion yn fawr. Ysgrifennodd o leiaf un llyfr ar thema rhyfel ar gyfer plant: Pickles – A Red Cross Heroine. Roedd ei gwaith yn boblogaidd yn UDA ac Awstralia.
Cyfeirnod: WaW0455
Llyfr
Pickles, A Red Cross Heroine gan Edith C Kenyon, cyhoeddwyd gan Collins. ‘Pickles dropped the deadly thing over the vasty deep’.
Torri papur newydd
Pennawd a pharagraffau agoriadol The Marriage of Mari. Cambria Daily Leader 26 Hydref 1916.
Hysbyseb papur newydd
Hysbysiad colofn lawn am gyfresu The Marriage of Mari. Cambria Daily Leader 23 Hydref 1916
Adroddiad papur newydd
Adolygiad o The Wooing of Mifanwy [sic ] mewn papur Newydd o Awstralia. The advertiser Adelaide 22 Mawrth 1913.
Rose Owen
Man geni: anhysbys
Gwasanaeth: Erthylwraig
Nodiadau: Daethpwyd a Rose Owen gerbron yr ynadon ym Mhen-y-bont ym mis Awst 1919 wedi ei chyhuddo o roi llawdriniaeth anghyfreithlon I Elizabeth Williams, gweddw. Bu’r achos yn un hir gan fod Elizabeth Williams yn ddifrifol wael. Fodd bynnag, gwellodd ac anonwyd yr achos I Lys y Goron Caerdydd lle dedfrydwyd Mrs Owen I 18 mis o lafur caled. Ymddengys ei bod yn erthylwraig broffesiynol gan fod menywod o’r cymoedd ac o Gaerdydd wedi eu gweld yn mynd I’w thy, yn ogystal â merched sengl a oed dyn aros yno.
Cyfeirnod: WaW0461
Adroddiad papur newydd
Rhan o adroddiad achos llys a dedfryd euog Rose Owen yn Llys y Goron, Caerdydd. Glamorgan Gazette 21 Tachwedd 1919
Gertrude Morgan
Man geni: Pen-y-bont ar Ogwr?
Gwasanaeth: Tocynwraig , GWR
Nodiadau: Roedd Gertrude yn docynwraig yng ngorsaf reilffordd Pen-y-bont ar Ogwr, ond ymosodwyd arni gan Lewis Davies, gan ei chicio y neu chlun. Roedd a glowr arall wedi cieiso teithio heb docyn. Yn ôl y nad roedd llawer gormod o’r fath hwliganiaeth hyn ym MHen-y-bont a dirwywyd Davies £2.
Cyfeirnod: WaW0458
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am y ffrwgwd yng Ngorsaf Reilffordd Pen-y-bont. Glamorgan Gazette 13 Medi 1918
Nancy Davies
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: Plentyn yn perfformio
Nodiadau: Gelwid ‘Nancy Davies Fach’ yn ‘Seren Fach Abertawe’. Yn blentyn roedd yn gomediwraig o fri a gymerai ran mewn cyngherddau codi arian yn ardal Abertawe yn 1918 ac yn rheolaidd yn yr Empire, Abertawe. Ymddangosodd hefyd yn yr Empire Caerdydd.
Cyfeirnod: WaW0456
Hysbyseb papur newydd
Enw Nancy Davies ar hysbyseb yr Empire Aberatwe. Cambria Daily Leader 18 Ebrill 1919
Adroddiad papur newydd
Adolygiad am Nancy Davies yn yr Empire Abertawe. South Wales Weekly Post 10 Mai 1919
Fannie Thomas
Man geni: Dolgellau
Gwasanaeth: Athrawes, Swffragét, Cynghorydd
Nodiadau: Ganwyd hi yn 1868, yn un o chwech o blant i gyfrifydd gyda’r National Provincial Bank. Roedd Fannie Thomas yn athrawes, swffragét ac o 1895 ymlaen yn Brifathrawes gyntaf ysgol y Babanod ac ar ôl 1908 Ysgol y Merched Ffaldau, Pontycymer, lle bu am 35 mlynedd. Deilliodd ei diddordeb mewn rhyddfreinio menywod o ymaelodi gyda’r National Union of Teachers a oedd yn brwydro am dâl cyfartal ag athrawon gwrywaidd. Yn 1906 roedd yn un o sylfaenwyr y National Union of Women Teachers, a bu’n Llywydd arno yn 1912. Gwahoddodd Adela Pankhurst i siarad am ryddfreinio menywod ym Mhontycymer (i godi arian i’r NSPCC) yn Ebrill 1907, a bu hithau’n annerch mewn sawl digwyddiad hefyd. Disgrifiodd y Glamorgan Gazette hi fel ‘rhyfelwraig ddewr dros achos menywod’. Roedd hi’n rhan o’r fintai Gymreig yng Ngorymdaith Goroni’r Menywod yn 1911. Trwy ei gwaith roedd yn ymwybodol iawn o dlodi’r ardal, ac ym mis Tachwedd 1914 safodd yn aflwyddiannus ar gyfer Bwrdd y Gwarcheidwaid (trechwyd hi gan fenyw arall, Mrs Edmund Evans, o 32 pleidlais). Fodd bynnag safodd Fannie yn llwyddiannus fel ymgeisydd Llafur ar gyfer Cyngor Dosbarth Trefol Ogwr a Garw yn 1919. Dwedir mai Fannie Thomas oedd y fenyw gyntaf i wisgo britsh pen-glin (ei llysenw’n lleol oedd Fanny Bloomers) ac mai hi oedd y gyntaf i reidio beic-modur. Gyda llawer o ddiolch i Ryland Wallace
Ffynonellau: Ryland Wallace :‘A doughty warrior in the women’s cause’. Llafur 2018 volume 12 number 3
Cyfeirnod: WaW0460
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am anerchiad Adela Pankhurst ar ran yr NSPCC a drefnwyd gan Fannie Thomas. Glamorgan Gazette 19 Ebrill 1907
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ddadl am ryddfreinio menywod yn Institiwt Ffaldau; cyflwynodd Fannie Thomas y cynnig a ddylai menywod gael y bleidlais. Glamorgan Gazette 22 Ionawr 1909
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am y gystadleuaeth am sedd ar Fwrdd y Gwarcheidwaid. Collodd Fannie Thomas. Glamorgan Gazette 13 Tachwedd 1914.
Adroddiad papur newydd
Sylw ar ethol Miss F M Thomas i Gyngor Dosbarth Trefol Aberogwr a Garw. Glamorgan Gazette 11 Ebrill 1919
Gorymdaith Goroni’r Menywod
Fannie Thomas ail o’r dde, yn cario basged. Gwelir Rachel Barrett ar y chwith eithaf hefyd. Gorymdaith Goroni’r Menywod Mehefin 1911
Ysgol y Merched Ffaldau
Merched ac athrawon Ysgol y Merched Ffaldau 1925. Fannie Thomas yw’r ail ar y dde.
Margaret Lewis (Morris)
Man geni: Merthyr Tydful
Gwasanaeth: TFNS, 1916 - 1919
Nodiadau: Hyfforddodd Margaret Lewis yn Cumberland ac roedd yn Nyrs Ardal (Queen’s) cyn ymuno â staff y 4ydd Ysbyty Cyffredinol Deheuol (Southern General Hospital) yn Plymouth yn Nhachwedd 1916. Anfonwyd hi i Ffrainc yn 1917 a gwasanaethodd mewn sawl ysbyty a gorsafoedd clirio rhai a anafwyd. Cafodd gynnig cyfle i wasanaethu ‘yn y Dwyrain’ yn lle cael ei dadfyddino yn 1919, ond gwrthododd. Yn hytrach arhosodd gyda’r TANS (dan ei enw newydd) am sawl blwyddyn, gan gael ei dyrchafu o Nyrs Staff i Chwaer yn 1922, dywedir ei bod ‘yn dda ei thymer ac yn ddoeth’. Ymddiswyddodd ar ol priodi yn 1928.
Cyfeirnod: WaW0457
Edith Picton Turbervill
Man geni: Fownhope, Swydd Henffordd
Gwasanaeth: Gweithwraig Lles, AS, Y W C A
Marwolaeth: 1960, Achos anhysbys
Nodiadau: Roedd Edith (a aned yn 1872) yn efeilles [qv Beatrice Picton-Warlow], ac yn un o blant niferus John Picton Turbervill a etifeddodd Briordy Ewenni, Morgannwg yn 1891. Roedd hi’n grefyddol iawn, bu’n gweithio gyda nafis tlawd rheilffordd Bro Morgannwg a theuluoedd tlawd Llundain. Ar ôl chwe blynedd yn India dychwelodd i Brydain i fod yn ysgrifennydd tramor yr Y.W.C.A. Pan dorrodd y rhyfel allan, cododd chwarter miliwn o bunnau i godi hosteli i’r Y.W.C.A. ar gyfer gweithwragedd ffatrïoedd arfau rhyfel a gweithwyr fferm. Roedd yn gefnogol iawn i ordeinio menywod a phregethodd mewn sawl capel anghydffurfiol yng Nghymru cyn dod yn y fenyw gyntaf i bregethu mewn Eglwys Anglicanaidd, yn 1919, yn gwisgo casog a gwenwisg. Gan ei bod dros chwe throedfedd, a chanddi lais braidd yn uchel, gwnaeth argraff yn y papurau newyddion. Yn y flwyddyn honno hefyd, ymunodd â’r blaid Lafur. Ar ôl dwy ymdrech aflwyddiannus, etholwyd hi yn AS dros Wrekin yn Swydd Amwythig yn 1929. Yn ystod ei gyrfa Seneddol fer llwyddodd i gyflwyno deddf i atal menywod beichiog rhag cael eu dienyddi.
Ffynonellau: Angela V John: Rocking the Boat, Parthian Press 2018
Cyfeirnod: WaW0442
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am y cyfarfod cyntaf i lansio darparu hosteli Y.M.C.A. ar gyfer gweithwragedd ffatrïoedd arfau yng Nghymru (rhan 1) Glamorgan Gazette 13 Hydref 1916.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am y cyfarfod cyntaf i lansio darparu hosteli ar gyfer gweithwragedd ffatrïoedd arfau yng Nghymru (Rhan 2) .Glamorgan Gazette 13 Hydref 1916.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am Edith Picton Turbervill yn pregethu yng nghapel Annibynwyr Bishopgate. Cambrian Daily Leader 14 Chwefror 1919.
Adroddiad papur newydd
Colofn ‘Small Talk’ yn disgrfio Edith Picton Turbervill yn pregethu mewn gwasanaeth rheolaidd yn Egwys Loegr yn Somercotes, Swydd Lincoln. Glamorgan Gazette 11 Gorffennaf 1919.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am Edith Picton Turbervill yn ymuno â’r Blaid Lafur. Cambria Daily Leader 18 Ionawr 1919
Llun
rnY menywod Llafur a etholwyd yn ASau yn 1929. Mae Edith Picton Turbervill yn y canol yn y cefn. Ar y dde yn y blaen mae Jennie Lee ifanc iawn, a briododd Aneurin Bevan yn ddiweddarach. Yn 24 oed roedd hi’n rhy ifanc i bleidleisio ond nid yn rhy ifanc i sefyll. Yn nesaf ati hi mae Ellen Wilkinson.