Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl achos marwolaeth
Jane Ellen Howdle
Gwasanaeth: Stiwardes
Marwolaeth: 1915:11:07, SS Lusitania, Drowning / Boddi
Cofeb: Cofeb Ryfel, Benllech, Ynys Mon
Nodiadau: 33 oed. Claddwyd yn Cohb Old Cemetery, swydd Cork, Iwerddon
Ffynonellau: http://www.rmslusitania.info/people/lusitania-victims;http://www.liverpoolmuseums.org.uk/maritime/visit/floor-plan/lusitania/people/peoples-stories.aspx?id=15530
Cyfeirnod: WaW0027
Hannah Owen
Man geni: Caergybi
Gwasanaeth: Stiwardes, c.1905 - 1918
Marwolaeth: 1918-10-10, RMS Leinster, Drowning / Boddi
Cofeb: Cofeb Ryfel, Coflech Capel Hyfrydle , Caergybi, Ynys Mon
Nodiadau: Tarawyd RMS Leinster gan dorpido ar Fôr yr Iwerydd. Bu farw HO ynghyd â Louise Parry
Ffynonellau: http://www.findagrave.com/cgi-bin/fg.cgi?page=gr&GRid=107830381
Cyfeirnod: WaW0040
Louisa Parry
Man geni: Caergybi
Gwasanaeth: Stiwardes
Marwolaeth: 1918-10-10, RMS Leinster, Drowning / Boddi
Cofeb: Cofeb Ryfel, Caergybi, Ynys Mon
Nodiadau: 22 oed. Tarawyd RMS Leinster gan dorpido ar Fôr yr Iwerydd. Bu farw LP ynghyd â Hannah Owen
Ffynonellau: http://www.findagrave.com/cgi-bin/fg.cgi?page=gr&GRid=15368549
Cyfeirnod: WaW0042
Emily Ada Pickford (née Pearn)
Man geni: Penarth
Gwasanaeth: Difyrwraig
Marwolaeth: -1919-07.02, Afon Somme, Drowning / Boddi
Cofeb: Cofeb Ryfel, Penarth, Morgannwg
Nodiadau: 37 oed. Aelod o un o Bartïon Cyngerdd Lena Ashwell, bu farw pan blymiodd car yr oedd hi’n teithio ynddo i afon Somme ar y ffordd adre o gyngerdd. Claddwyd yng Nghladdfa Gymunedol Abbeville, llain V, Rhes G, Bedd 23
Cyfeirnod: WaW0043
Cofeb Ryfel Penarth
Enw Emily Pickford, Cofeb Ryfel Penarth, roedd hi'n gantores a foddodd mewn damwain yn y Somme, Ionawr 1919
Jane (Jennie) Roberts
Man geni: Bryncrug
Gwasanaeth: Nyrs staff, QAIMNS
Marwolaeth: 1917-04-10, HMHS Salta, Drowning / Boddi
Cofeb: Cofeb y Nyrsys, Llanelwy, Sir y Fflint
Nodiadau: 30 oed. Bu farw pan suddwyd Llong Ysbyty Ei Fawrhydi 'Salta' ger Le Havre ar 10 Ebrill 1917. Collwyd hi ar y môr ac ni chafwyd hyd i'w chorff. Gwelir ei henw ar Gofeb y Salta ym Mynwent y Santes Marie, Le Havre, Normandi, Ffrainc, ac ar blac coffa ym mhorth Eglwys Sant Cadfan, Tywyn
Cyfeirnod: WaW0052
Jane (Jennie) Roberts
Ffotograff o Jane/Jennie a gasglwyd gan Is-bwyllgor Menywod yr Imperial War Museum fel rhan o’i gasgliad a fenywod a fu farw yn ystod y Rhyfel
Margaret Williams
Man geni: Caergybi
Gwasanaeth: Stiwardes, 1914 - d
Marwolaeth: 1916-11-03, SS Connemara, Drowning / Boddi
Cofeb: Cofeb Ryfel, Caergybi, Ynys Mon
Nodiadau: 32 oed. Suddwyd SS Connemara mewn gwrthdrawiad gyda llong gario glo Retriever. Dwedwyd bod MW ar ei shifft olaf cyn ei phriodas. Ni chafwyd hyd i'w chorff.
Ffynonellau: https://sites.google.com/site/holyheadwarmemorial19141918/home/ss-connemara/margaret-williams-stewardess
Cyfeirnod: WaW0067
Martha Emily Jenkins
Man geni: Lerpwl
Gwasanaeth: Stiwardes, SS Aguila
Marwolaeth: 1915/03/27, SS Aguila / ger yr glannau Sir Benfro, Drowning / Boddi
Cofeb: Cofeb Tower Hill, Llundain
Nodiadau: Ganwyd Martha Jenkins yn Lerpwl ond i deulu Cymreig. Bu’n stiwardes ar SS Aguila a oedd yn masnachu rhwng Lerpwl a’r Ynysoedd Dedwydd. Trawyd y llong gan dorpido o long danfor Almaenig oddi ar arfordir Sir Benfro. Collwyd wyth o bobl gan gynnwys teithwraig na wyddys pwy oedd hi.
Ffynonellau: http://www.benjidog.co.uk/Tower%20Hill/WW1%20Agenoria%20to%20Alaunia.html#Aguila
Cyfeirnod: WaW0173
Adroddiad papur newydd
Rhan o adroddiad am suddo’r SS Aguila, Abergavenny Chronicle 2ail Ebrill 1915
Mary Elizabeth (May) Jones
Man geni: Llanfairfechan
Gwasanaeth: Stiwardes, Cunard Steam Ship Company
Marwolaeth: 1915/05/17, SS Lusitania, Drowning / Boddi
Cofeb: Cofeb Forol Fasnachol i’r rhai a gollwyd , Tower Hill, Llundain
Nodiadau: Bu May yn brif stiwardes gyda chwmni Cunard Steam Ship am sawl blwyddyn. Boddodd yn 43 oed pan darawyd yr SS Lusitania â thorpido ar 17eg Mai 1917. Boddwyd 14 stiwardes arall hefyd, yn eu plith Jane Howdle [qv]. Goroesodd wyth. Claddwyd hi gyda’r gweddill ohonynt ym mynwent Old Cobh, Queenstown, Iwerddon.
Ffynonellau: http://www.liverpoolmuseums.org.uk/maritime/visit/floor-plan/lusitania/people/peoples-stories.aspx?id=15547
Cyfeirnod: WaW0261
Anne Davies
Man geni: Tregŵyr
Gwasanaeth: Mam
Marwolaeth: 1915/05/07, S S Lusitania, Drowning / Boddi
Nodiadau: Deuai Anne Davies yn wreiddiol o Dregŵyr, ond ymfudodd i America tua 1995. Trigai yn Ontario, Canada, ond roedd wedi bod yn ymweld â’i merch yn Llanelli. Roedd yn dychwelyd ar y Lusitania pan ymosodwyd ar y llong oddi ar arfordir Iwerddon. Yn 52 oed, ei chorff hi oedd un o’r cyntaf i’w ddarganfod, ac mae wedi ei chladdu yng nghladdfa Cobh Old Town, Queenstown.
Cyfeirnod: WaW0277
Adroddiad papur newydd a llun
Erthygl gyda llun o Anne Davies, a oedd ar goll ar y pryd ar ôl suddo’r Lusitania. Cambria Daily leader 10fed Mai 1915.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad yn cadarnhau marwolaeth Anne Davies, Cambria Daily Leader 19eg Mai 1915.
Margaret Elizabeth Foulkes (née Hughes)
Man geni: Sandycroft, Sir y Fflint
Gwasanaeth: Stiwardes, S S Lusitania, 1915
Marwolaeth: 1915/07/05, Drowning / Boddi
Cofeb: Cofeb Forol Fasnachol i’r rhai a gollwyd, Llundain
Nodiadau: Ganwyd Margaret Foulkes yng Nghymru a’i magu yn Lerpwl. Roedd yn weddw ac wedi gweithio ar y Lusitania cyn ei mordaith olaf; ymddengys bod stiwardesau yn cael eu cyflogi bob yn fordaith. Cafodd ei boddi pan drawyd y llong gan dorpido ar Fai 7fed 1915, roedd hi’n 42 oed. Ni chafwyd hyd i’w chorff.
Cyfeirnod: WaW0324