Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl dyddiad marwolaeth
Hannah Davies
Man geni: Y Glog, sir Benfro
Gwasanaeth: Chwaer
Marwolaeth: 1918 ?, Y Glog, sir Benfro, Influenza / Ffliw
Nodiadau: Roedd Hannah Davies yn chwaer i ddau filwr, William a John, a oedd yn gwasanaethu tramor. Lladdwyd John, yr ieuengaf, a chladdwyd ef yn Jeriwsalem. Goroesodd William, ond daeth â’r ffliw Sbaenaidd adre gydag ef. Goroesodd hwnnw hefyd, ond daliodd Hannh ef wrth ei nyrsio, a bu farw. Mae llythyrau oddi wrth y ddau frawd, yn Gymraeg a Saesneg, wedi goroesi.
Cyfeirnod: WaW0243
Llythyr
Llythyr Saesneg oddi wrth William at Hannah Davies, ysgrifennwyd ar bapur YMCA, ar Ionawr 21ain, 1918
Llythyr (cefn)
Cefn llythyr yn Saesneg oddi wrth William at Hannah Davies, wedi ei ysgrifennu ar bapur YMCA, ar Ionawr 21ain, 1918
Lythyr
Llythyr yn Gymraeg oddi wrth William at Hannah Davies, wedi ei ysgrifennu ar bapur Church Army Recreation Hut. Gaeaf 1917-18
Llythyr (cefn)
Llythyr yn Gymraeg oddi wrth William at Hannah Davies, wedi ei ysgrifennu ar bapur Church Army Recreation Hut. Gaeaf 1917-18 (cefnrn
Gertrude Winifred Allan Dyer
Man geni: Casnewydd
Gwasanaeth: Gweithwraig, QMAAC
Marwolaeth: 1918-01-27, Achos anhysbys
Cofeb: Bedd yng Nghladdfa Christchurch, Casnewydd, Sir Fynwy
Nodiadau: 38 oed. Ar ei bedd dywedir i’r garreg gael ei chodi gan ei theulu a ‘Newport Women’s Liberal Association of which she was the secretary for 18 years’. Mae Comisiwn Rhyfel y Gymanwlad wedi gosod plac ar ei bedd hefyd. Ceir ei henw yn ogystal ar lyfr Rhestr Anrhydedd y Rhyfel Byd Cyntaf a gedwir yn Llyfrgell Gyfeirio Casnewydd.
Cyfeirnod: WaW0103
Clemima Coopey
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel, 1916 - 1918
Marwolaeth: 1918-02-26, Ysbyty Gweithwyr Blaenafon , Industrial Accident / Damwain Ddiwydiannol
Nodiadau: Cafodd Clemima Coopey ei dal mewn peiriant yn nhŷ-peiriant Cwmni Blaenavon Cyf. Roedd yn rhuthro i ddal y trên 9.30 y.h., ac roedd wedi gadael ei hesgidiau yno yn anghyfreithlon. Roedd ei gŵr yn ymladd yn Salonica, ac roedd ganddi dri phlentyn bach.
Cyfeirnod: WaW0071
Lizzie Dora Stephens
Man geni: Y Trallwng
Gwasanaeth: Gweithwraig, QMAAC
Marwolaeth: 1918-04-24, Achos anhysbys
Cofeb: Cofeb Ryfel, Y Trallwng, Sir Drefaldwyn
Nodiadau: 23 oed. Claddwyd yng Nghladdfa Filwrol Aldershot
Ffynonellau: http://tanyabirnie.blogspot.it/2014/09/worker-m-f-brown.html
Cyfeirnod: WaW0058
Eva Martha Davies
Man geni: Llanilltud Fawr ?
Gwasanaeth: Nyrs, VAD, Aug / Awst-1914 - 1918
Marwolaeth: 1918-06-16, Casnewydd, Septic poisoning contracted on duty. Gwenwyno septig a gafwyd tra ar ddyletswydd
Cofeb: Cofeb Ryfel , Llanilltud Fawr, Morgannwg
Nodiadau: Gweithiai yn Ysbyty Casnewydd.Ffotograff o Eva a gasglwyd gan Is-bwyllgor Menywod yr Imperial War Museum fel rhan o’i gasgliad a fenywod a fu farw yn ystod y Rhyfel. Lladdwyd dau o frodyr Eva yn Ffrainc. Merch Mary Davies (WaW0172),
Cyfeirnod: WaW0008
Eva Martha Davies
Ffotograff o Eva a gasglwyd gan Is-bwyllgor Menywod yr Imperial War Museum fel rhan o’i gasgliad a fenywod a fu farw yn ystod y Rhyfel.
Mary E Smith
Man geni: Dolgellau
Gwasanaeth: Prif weithwraig, QMAAC
Marwolaeth: 1918-08-21, Dolgellau, Sickness / Salwch
Cofeb: Cofeb Ryfel, Dolgellau, Meirionnydd
Nodiadau: 42 Oed. Claddwyd yn Eglwys y Santes Fair, Dolgellau.
Cyfeirnod: WaW0056
Mary Evans
Man geni: Meidrim
Gwasanaeth: Nyrs, 1916 - 1918
Marwolaeth: 1918-10-04, Ysbyty Milwrol Edmonton, , Influenza/Y Ffliw
Cofeb: Cofeb Ryfel, Abergwili, Sir Gaerfyrddin
Nodiadau: 38 oed. Claddwyd yng nghladdfa Abergwili
Ffynonellau: http://www.wwwmp.co.uk/carmarthenshire-war-memorials/
Cyfeirnod: WaW0012
Hilda Jessie Downing
Man geni: Y Drenewydd
Gwasanaeth: Nyrs, 1914 - 1918
Marwolaeth: 1918-10-10, Y Drenewydd, Influenza / Y Ffliw
Cofeb: Cofeb Ryfel, Y Drenewydd, Sir Drefaldwyn
Nodiadau: 29 oed. Gweithiai yn ysbyty filwrol Broadstairs, Caint
Cyfeirnod: WaW0010
Hannah Owen
Man geni: Caergybi
Gwasanaeth: Stiwardes, c.1905 - 1918
Marwolaeth: 1918-10-10, RMS Leinster, Drowning / Boddi
Cofeb: Cofeb Ryfel, Coflech Capel Hyfrydle , Caergybi, Ynys Mon
Nodiadau: Tarawyd RMS Leinster gan dorpido ar Fôr yr Iwerydd. Bu farw HO ynghyd â Louise Parry
Ffynonellau: http://www.findagrave.com/cgi-bin/fg.cgi?page=gr&GRid=107830381
Cyfeirnod: WaW0040
Louisa Parry
Man geni: Caergybi
Gwasanaeth: Stiwardes
Marwolaeth: 1918-10-10, RMS Leinster, Drowning / Boddi
Cofeb: Cofeb Ryfel, Caergybi, Ynys Mon
Nodiadau: 22 oed. Tarawyd RMS Leinster gan dorpido ar Fôr yr Iwerydd. Bu farw LP ynghyd â Hannah Owen
Ffynonellau: http://www.findagrave.com/cgi-bin/fg.cgi?page=gr&GRid=15368549
Cyfeirnod: WaW0042