Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl enw
Katherine Rosebery Drinkwater (née Jay)
Man geni: Chippenham
Gwasanaeth: August/Awst 1916 - August/Awst
Marwolaeth: 1939/12/29, Wrecsam, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganwyd Katherine Drinkwater yn 1872, yn ferch i feddyg a chafodd ei haddysgu ym maes meddygaeth yn Llundain a Lerpwl (lle roedd yn un o’r menywod cyntaf i dderbyn Diploma’r Brifysgol mewn Iechyd Cyhoeddus). Yn 1903 priododd feddyg teulu, gwr gweddw o’r enw Dr Harry Drinkwater a symudodd i Wrecsam. Yno daeth yn swyddog meddygol cynorthwyol i ysgolion, a yn ogystal â dal swydd Gynocolegydd Cynorthwyol yn Ysbyty’r Menywod, Lerpwl. Yn 1916 galwodd Corfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin ar feddygon benywaidd i wirfoddoli i wasanaethu ym Malta, ac roedd Katherine ymysg y 22 cyntaf i ymateb. Doedd bywyd yn feddyg benywaidd gyda’r Corfflu ddim yn hawdd. Mewn llythyr i The Times yn 1918, ysgrifennodd Dr Jane Walker, Llywydd Ffederasiwn Meddygol y Menywod “Although many of the medical women serving in the army not only have a high professional standing in civil practice, but now have a large experience in military hospitals, they rank below the latest joined R.A.M.C. subaltern, and are obliged to take orders from him. When they travel, they travel not as officers, but as ‘soldiers’ wives’”. Roedd Katherine yn gofalu am yr Ysbyty Milwrol Teuluol yn Auberge d’Aragon yn Valletta, a bu yno am flwyddyn. Yn 1918 cafodd ei gwobrwyo ag OBE am ei gwaith. Ar ol dychwelyd parhaodd i weithio ym maes iechyd cyhoeddus, daeth yn feddyg teulu a chyda’i gwr parhaodd i ennill gwobrau am eu daeargwn West Highland yn sioeau gogledd Cymru.
Ffynonellau: https://www.maltaramc.com/ladydoc/d/drinkwaterkr.html http://owen.cholerton.org/ref_drs_harry_and_katharine_drinkwater.php
Cyfeirnod: WaW0435
Llun
Roedd Katherine yng ngofal yr Ysbyty Teuluol Milwrol hwn yn Auberge d’Aragon gynt yn Valletta, Malta.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ddychweliad Dr Drinkwater o Malta – roedd ar fin digwydd. Llangollen Advertiser 3 Awst 1917
London Gazette
Gwobrwyo Katherine Drinkwater gydag OBE (colofn ar y dde, pumed o’r gwaelod). London Gazette Mehefin 7 1918.
Thurza Dunn
Man geni: Casnewydd
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn ffatri gwneud arfau rhyfel a chwaraewraig rygbi
Nodiadau: Gweithiai Thurza Dunn yn un o’r ffatrïoedd arfau rhyfel yng Nghasnewydd. Roedd hi’n chwarae rygbi dros dîm y ffatri hefyd. Câi’r gemau hyn eu chwarae i godi arian tuag at yr ymdrech ryfel. Diolch i Ann Davison.
Cyfeirnod: WaW0377
Thurza Dunn
Thurza Dunn a’i chyd-chwaraewyr. Mae Thurza yn y rhes flaen, yn ail o’r chwith. Diolch i Ann Davison.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am gêm rygbi elusennol a chwaraewyd ym Mharc Jenner, y Barri, rhwng dau dîm o weithwyr mewn ffatrïoedd arfau rhyfel. Roedd y Barri yn codi arian am long danfor: rhagorwyd ar y targed o £10,000! Barry Dock News 15fed Mawrth 1918.
Gertrude Winifred Allan Dyer
Man geni: Casnewydd
Gwasanaeth: Gweithwraig, QMAAC
Marwolaeth: 1918-01-27, Achos anhysbys
Cofeb: Bedd yng Nghladdfa Christchurch, Casnewydd, Sir Fynwy
Nodiadau: 38 oed. Ar ei bedd dywedir i’r garreg gael ei chodi gan ei theulu a ‘Newport Women’s Liberal Association of which she was the secretary for 18 years’. Mae Comisiwn Rhyfel y Gymanwlad wedi gosod plac ar ei bedd hefyd. Ceir ei henw yn ogystal ar lyfr Rhestr Anrhydedd y Rhyfel Byd Cyntaf a gedwir yn Llyfrgell Gyfeirio Casnewydd.
Cyfeirnod: WaW0103
Dorothy Caroline Edmondes (née Nicholl)
Man geni: Brynbuga
Gwasanaeth: Nyrs, masseur, VAD
Marwolaeth: 1963, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganwyd Dorothy yn 1871, yn ferch i deulu o dirfeddianwyr ym Merthyr Mawr. Bu farw ei gŵr, yr Uwchgapten Charles Edmondes yn 1911. Ymunodd â’r VAD yn 1915 yn nyrs, ond roedd wedi hyfforddi rywdro mewn tylino cyrff (ffisiotherapi). Yn 1917 sefydlodd glinig orthopedig i gleifion allanol yn Ysbyty’r Groes Goch ym Mhenybont ar Ogwr, lle roedd hi yn brif dylinwraig, swydd y bu ynddi tan 1922. Enillodd OBE yn y flwyddyn hon am ei gwaith gyda milwyr clwyfedig ym Mhenybont. Safodd Dorothy Edmondes yn ymgeisydd Ceidwadol dros Ogwr yn etholiad cyffredinol 1922.
Cyfeirnod: WaW0296
Elizabeth Edmunds
Gwasanaeth: Prif Arolygydd Lles Menywod, Ffatri Bowdwr Genedlaethol Pen-bre
Nodiadau: Prif Arolygydd Lles Menywod, Ffatri Bowdwr Genedlaethol Pen-bre (Ffatri Arfau Rhyfel). Enillodd yr MBE yn Ionawr 1919.
Cyfeirnod: WaW0139
Elizabeth Edmunds
Elizabeth Edmunds, Elizabeth Edmunds, prif Arolygydd Lles y Menywod, Ffatri Bowdwr Genedlaethol, Pen-bre
Caroline Maud Edwards
Man geni: Casnewydd
Gwasanaeth: Prif Nyrs, QARNNS
Marwolaeth: 1915/12/30, Explosion/Ffrwydrad
Cofeb: Cofeb Forol Chatham, Chatham, Caint
Nodiadau: Roedd y Chwaer Edwards yn gwasanaethu ar HMHS Drina, ond ar ymweliad â HMS Natal gydag eraill i weld ffilm Nadolig. Bu farw gydag o leiaf 400 o bobl eraill mewn ffrwydrad diesboniad.
Ffynonellau: http://www.northern-times.co.uk/Opinion/Stones-Throw/The-little-known-tragedy-of-HMS-Natal-07112012.htm
Cyfeirnod: WaW0091
Jane Edwards
Man geni: Tai Cyn Haeaf
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn ffatri arfau
Marwolaeth: 1962, Dolgellau, Achos anhysbys
Nodiadau: Gweithiai Jane Edwards mewn ffatri arfau rhyfel yn Lerpwl, er na wyddys ym mha un o’r ffatrïoedd niferus hyn. Yn ôl traddodiad teuluol trwy gyfrwng ei nai, aeth ei gwallt yn felyn oherwydd y powdwr. Diolch i J T Jones.
Cyfeirnod: WaW0352
Jane Edwards
Jane Edwards yn ei gwisg fel gweithwraig ffatri arfau rhyfel. Gwelir bathodyn siap triongl gweithwyr y rhyfel ar ei gwisg. Llun gan J T Jones, Y Bala.
Nurse Edwards
Man geni: Cynwyd
Gwasanaeth: Nyrs, Not known / anhysbys
Nodiadau: Roedd M A Harries yn un o dair nyrs o Gymru a wasanaethodd ar y llong ysbyty Britannic (chwaer long y Titanic). Y ddwy arall oedd Annie Handley a M A Harries. Goroesodd y tair pan drawodd ffrwydryn y llong yn y Môr Aegeaidd ar 21ain Tachwedd 1916 a suddo, gan golli 30 o fywydau o’r 1065 oedd ar fwrdd y llong. Wedi hynny bu’n nyrsio yn Ffrainc.
Cyfeirnod: WaW0256
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ymweliad Nyrs Edwards â’i chartref, Yr Adsain 27ain Chwefror 1917.
Maria Eley
Man geni: Caerdydd
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn ffatri gwneud arfau rhyfel a chwaraewraig rygbi
Marwolaeth: 2007, Achos anhysbys
Nodiadau: Roedd Maria Eley yn chwarae cefnwr i Dîm Rygbi Menywod Caerdydd yn ystod 1917 ac 1918, gan gynnwys mewn gêm yn erbyn Menywod Casnewydd ym Mharc yr Arfau Caerdydd ar 16eg Rhagfyr 1917, pan oedd yn 16 oed. Bu farw Maria yn 2007 yn 106 oed.
Ffynonellau: http://www.scrumqueens.com/news/wales-v-uk-forces-99-years https://cardiffrugbymuseum.org/articles/earliest-photograph-women%E2%80%99s-team
Cyfeirnod: WaW0240
Maria Eley
Tîm Rygbi Cardiff Ladies, llun a dynnwyd ar 16eg Rhagfyr 1917 mae’n debyg. Eistedd Maria ar y chwith yn yr ail res.
Toriad papur newydd
Toriad papur newydd yn rhoi sgôr y gêm a chwaraewyd ar 16eg Rhagfyr 1917. Ffynhonnell anhysbys.
Lily Ellis
Man geni: Aberpennar
Gwasanaeth: Nyrs, TFNS, 1914 - 1919
Nodiadau: Roedd Lily yn ferch i arweinydd côr adnabyddus, Hugh Ellis, yn Aberpennar, a hyfforddodd yn Ysbyty Cyffredinol a Llygaid Abertawe. Ar ôl gweithio yn Abertawe a Malvern cafodd ei phenodi yn chwaer theatr yn Ysbyty Lewisham, Llundain. Ar ddechrau’r Rhyfel ymunodd â’r TFNS ac roedd yn gwasanaethu yn yr Ysbyty Cyffredinol Deheuol 1af pan ymwelodd y Brenin George V yn 1916; enillodd y Groes Goch Frenhinol.
Cyfeirnod: WaW0486
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am wobrwyo Lily Ellis â’r Groes Goch Frenhinol. Aberdare Leader 24 Mehefin 1916