Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl enw
Lilias Stuart Mitchell (née Wilsone)
Man geni: Straights Settlement
Gwasanaeth: Pwyllgorwraig, mam
Marwolaeth: 1949, Swydd Caint , Achos anhysbys
Nodiadau: Gwraig A A Mitchell, Henadur ac YH yn Aberhonddu a mam Isabella Mitchell [qv] a fu’n gyrru ambiwlansysy yn Ffrainc oedd Lilias Mitchell. Lladdwyd ei mab hynaf ym Mesopotamia yn 1917 ac anafwyd ei mab ieuengaf yn ddifrifol yn Ffrainc yn 1918. Roedd hi a’i gŵr yn Geidwadwyr lleol nodedig; cefnogodd Lilias ffoaduriaid ac Ysbyty’r Groes Goch Penoyre. At hyn hi oedd Ysgrifennydd Pwyllgor Ffair Gyflogi Aberhonddu ac roedd yn Aelod o Bwyllgor y Ddeddf Diffyg Meddyliol. Ym Mehefin 1918 gwobrwywyd hi â’r Medaille de la Reine Elisabeth am ei gwaith gyda ffoaduriaid Gwlad Belg. Gadawodd hi a’i gŵr yr ardal yn 1919.
Cyfeirnod: WaW0396
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am benodi Mrs Mitchell i Bwyllgor Deddf Diffyg Meddyliol. Brecon County Times 5ed Awst 1915.
Llythr papur newydd
Llythyr i’r papur Newydd am ddarpariaeth i’r merched yn Ffair Gyflogi Aberhonddu. Brecon County Times 26ain Ebrill 1917.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am wobrwyo Mrs Mitchell â’r Medaille de la Reine Elisabeth. Brecon and Radnor Express 27ain Mehefin 1918.
Rhybudd o ocsiwn
Rhestr o offer gardd a stabl a werthwyd gan y teulu Mitchell cyn iddynt ymadael ag Aberhonddu. Brecon County Times 21ain Awst 1919.
Elizabeth Anne Montgomery Wilson
Man geni: anhysbys
Gwasanaeth: Nyrs (Prif Fetron), TFNS, 1914 - 1919
Nodiadau: Bu Elizabeth Montgomery Wilson yn gwasanaethu yn Rhyfel y Boer, yn uwcharolygydd Gwasanaeth Nyrsio Byddin Gristnogol y Dywysoges. Roedd hi’n Fetron Ysbyty Infirmary Caerdydd eisoes, ac yn Brif Fetron pan ddaeth yr ysbyty yn 3ydd Ysbyty Cyffredinol y Gorllewin yn 1914. Dychwelodd i swydd metron ar ddiwedd y rhyfel.
Cyfeirnod: WaW0339
Elizabeth Montgomery Wilson
Elizabeth Montgomery Wilson yn narlun Margaret Lindsay Williams o 3ydd Ysbyty Cyffredinol y Gorllewin. Mae hi ar y chwith.
London Gazette
Gwobr o far i’r Groes Goch Frenhinol a gyhoeddwyd yn y London Gazette. Roedd Elizabeth Montgomery Wilson eisoes wedi derbyn yr anrhydedd hwn yn gynt yn y rhyfel. London Gazette13th January 1920
Edith Moore-Gwyn (née Jepson)
Man geni: Llundain
Gwasanaeth: Penswyddog, VAD, 1914 - 1919
Nodiadau: Ganed Edith Moore-Gwyn yn 1852. Bu hi’n Llywydd neu’n Gadeirydd nifer o gyrff cyhoeddus yn ac o gwmpas Castell Nedd. Iechyd ac addysg oedd ei diddordebau, a sefydlodd hi Ysbyty Atodol y Groes Goch, Laurels yng Nghastell Nedd. Derbyniodd yr OBE ar ddiwedd y Rhyfel.
Cyfeirnod: WaW0178
Gertrude Morgan
Man geni: Pen-y-bont ar Ogwr?
Gwasanaeth: Tocynwraig , GWR
Nodiadau: Roedd Gertrude yn docynwraig yng ngorsaf reilffordd Pen-y-bont ar Ogwr, ond ymosodwyd arni gan Lewis Davies, gan ei chicio y neu chlun. Roedd a glowr arall wedi cieiso teithio heb docyn. Yn ôl y nad roedd llawer gormod o’r fath hwliganiaeth hyn ym MHen-y-bont a dirwywyd Davies £2.
Cyfeirnod: WaW0458
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am y ffrwgwd yng Ngorsaf Reilffordd Pen-y-bont. Glamorgan Gazette 13 Medi 1918
Hilda Morgan
Man geni: Casnewydd
Gwasanaeth: Nyrs, VAD
Nodiadau: Roedd Hilda yn nyrs wedi ei hyfforddi a gwasanaethodd yn Ysbyty Atodol Baldwin, Griffithstown. Gwelir ei henw ar Restr Anrhydeddau Ebenezer, Capel y Bedyddwyr, Griffithstown. rn
Cyfeirnod: WaW0428
Restr Anrhydedd
Enw Hilda Morgan, Rhestr Anrhydeddau Capel Ebenezer, Griffithstown. Diolch i Gethin Matthews.
M Morgan
Man geni: Tonpentre
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Cofeb: Capel M C Jerusalem , Tonpentre, Morgannwg
Nodiadau: Ni wyddys unrhyw beth am Miss M Morgan y gwelir ei hen war Restr Anrhydedd Capel Methodistiaid Calfinaidd Jerusalem, Tonpentre
Cyfeirnod: WaW0158
Rhestr Anrhydedd
Name of Miss M Morgan, Munitions Worker, on Roll of Honour, in Jerusalem Calvinistic Methodist Chapel, Ton Pentre
Mary Morgan (née Corfield)
Man geni: Abertawe c.1890
Gwasanaeth: Nyrs, VAD
Nodiadau: Bu’r siaradwraig yn nyrsio yn adeilad yr YMCA yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Gweithient o 6 y bore tan 2 y prynhawn. Ymhen amser cawsant ystafelloedd sengl i fyny’r grisiau gan weithio o 6 tan 10.30 a chael cinio canol dydd. Gweithient yn galed iawn a gwneud fel y dywedid wrthynt. Roedd swyddogion y fyddin, ac roedd yn rhaid iddynt ddilyn eu gorchmynion e.e. sefyll i fyny. Aeth hi i’r wyrcws (ar Mount Pleasant) i ddechrau hyfforddi a bu wedyn yn ward ddamweiniau Ysbyty Abertawe - gwelon nhw lawer yno. Ai’r milwyr yn syth i’r YM o’r dociau neu’r orsaf, gan osgoi Llundain, fe ymddengys. Gwelon nhw anafiadau difrifol. Un peth roedd hi’n ei gasáu (doedd gwaed ddim yn ei phoeni) - oedd rhoi rhwymynnau ar socedi gwag llygaid. Roedden nhw’n gweithio’n galed.Doedd dim llawer ar gyfer merched ifanc - roedd rhai yn gyrru ceir … ac yn gwisgo caci. Doedd ei thad byth yn gadael iddi adael cartref, ond roedd nyrsio yn ystod y rhyfel yn wahanol. Rhoddodd e lwfans da o £60 y flwyddyn iddi. Cynghorodd hi i edrych ar ei hôl ei hun a pheidio mynd i ddyled. Roedd hi’n caru (nyrsio). Roedden nhw’n tynnu’u pwysau. Roedd yn rhaid iddynt gymryd gorchmynion oddi wrth bobl y byddent wedi codi’u trwynau arnynt gynt. Dim ond Minteioedd Atodol Gwirfoddol (VADs) oedden nhw. Rhyfel yw rhyfel. Cadwon nhw mewn cysylltiad â llawer o’r dynion.
Ffynonellau: Recorded at Bloomfield Care Home, Sketty by Jenny Sabine, c. 1990
Cyfeirnod: WaW0124
Mary Morgan
Gwasanaeth: Gweithwraig arfau rhyfel
Nodiadau: Cyfieithiad o ddyddiadur Gabrielle (Bobbie) West, plismones ym Mhen-bre, 10 Mawrth 1917
‘Mae un ferch yma (Pen-bre) Mary Morgan, sy’n cael y ffitiau mwyaf difrifol. Mae’n mynd yn farw a gwirion am funud ac yna’n goch iawn ei hwyneb, ac yna dechreua ymaflyd yn wyllt iawn, gan dynnu ei gwallt, crafu ei hwyneb a gwyrdroi ei chorff yn erchyll. Mae angen pedwar neu bump ohonom i’w dal i lawr a’i rhwystro rhag ei hanafu ei hun. Hoff ‘feddyginiaeth’ y merched yw trochi’r ddioddefwraig â dŵr oer, ei bwrw a rhoi slap iddi, ei hysgwyd, taflu te poeth rhwng ei dannedd (er, gan ei bod yn anymwybodol na all lyncu) ac yn olaf ond nid yn lleiaf, eistedd ar ei stumog. Dwedodd y ferch arbennig hon wrthyf (Gabrielle West) ar ôl ei ffit ddiweddaraf ei bod mor falch fod y blismones wedi edrych ar ei hôl ac wedi cadw’r merched eraill draw oherwydd y tro diwethaf roedd wedi cleisio gymaint nes iddi fod yn sal am wythnos!’
Ffynonellau: Ed Avalon Richards: Menus, Munitions and Keeping the Peace: The Home Front Diaries of Gabrielle West (Pen and Sword Publishing, 2016)
Cyfeirnod: WaW0223
Betty Morris
Man geni: Hwylffordd
Gwasanaeth: Nyrs, VAD, 1915/05/27 – 1918/07/12.
Nodiadau: Ymunodd Betty Morris â’r VAD ym mis Mai 1915, gan weithio’n wreiddiol yn Ysbyty Ategol Cottesmore, Hwlffordd. Ym mis Tachwedd cafodd ei hanfon i Ffrainc, i Boulogne i ddechrau ond cafodd ei dyrchafu i ‘ysbyty mwy’ yn fuan, y nyrs ieuengaf yno, yn 20 oed. Siaradai Ffrangeg yn rhugl, ac arhosodd gyda’r VAD tan fis Gorffennaf 1918. Cyhoeddwyd rhai o’i llythyron adre yn y Haverfordwest and Milford Haven Telegraph.
Cyfeirnod: WaW0478
Llun papur newydd
Llun o Betty Morris yn ei gwisg VAD awyr agored. Haverfordwest and Milton Haven Telegraph 16eg Chwefror 1916
Adroddiad papur newydd
Adroddiad papur newydd am ymadawiad Betty Morris am Ffrainc. Haverfordwest and Milton Haven Telegraph 10fed Tachwedd 1915
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am Nadolig Betty Morris yn Ffrainc. Haverfordwest and Milton Haven Telegraph 16eg Chwefror 1916
Daisy Morris
Man geni: Llandudoch
Gwasanaeth: Gweithwraig ffatri arfau ? yna Clerc – Teleffonydd , QMAAC, 1918/06/06 – 1919/05/06
Nodiadau: Ganwyd hi yn LLandudoch yn 1895, roedd ei thad yn wyliwr y glannau. Efallai i Daisy weithio mewn ffatri arfau rhyfel yn Nociau’r Barri. Pan ymunodd â’r QMAAC yn 1918 roeddyn byw yn Barrow, ger ei chwaer a oedd yn byw yn Flookburgh, gogledd Swydd Gaerhirfryn.
Ffynonellau: National Archives WO-398-159-25
Cyfeirnod: WaW0309