Nodiadau: Ymunodd Gwladys â’r WAAC ym mis Medi 1917 pan oedd yn forwyn yn Ysbyty Pontypŵl. Mae ei phapurau WAAC wedi goroesi yn yr Archifau Cenedlaethol, gan gynnwys llythyr at Arglwyddes Mackworth (Margaret Haig Thomas) yn Awst 1917, yn holi am y posiblrwydd y gallai ymuno â chorfflu byddin y menywod. Gwasanaethodd yn gogyddes gynorthwyol, yn Bisley ger Llundain i ddechrau, ac yna yng Ngwersyll Catterick, swydd Efrog. Cafodd ei gollwng o’r WAAC am resymau trugarog yn Hydref 1919.
Ffynonellau: National Archives WO-398-193-26
Cyfeirnod: WaW0291
Geirda i gael ymuno â’r WAAC
Geirda Gwladys Rowlands o Ysbyty Pontypŵl
Rhestr gwisg swyddogol
Gwisg WAAC ar gyfer Gwladys Rowlands (1)
Rhestr gwisg swyddogol
Gwisg WAAC ar gyfer Gwladys Rowlands (2)
Rhestr Anrhydedd
Enw Gwladys Rowlands ar Restr Anrhydedd Eglwys y Bedyddwyr Pisgah, Talywaun.
Mary Ellen Herbert
Man geni: Llangeitho
Gwasanaeth: VAD, 1917 - 1919
Nodiadau: Penodwyd Mary Ellen Herbert yn Brif Ddosbarthwr Tabledi yn Ysbyty Milwrol Whitchurch, Swydd Amwythig ym Mai 1917. Roedd hi’n 28 oed. Cyn hynny roedd wedi gweithio yn Ysbyty’r Brenin Edward VII yng Nghaerdydd. Yn Hydref y flwyddyn honno cafodd ei symud i’r Ysbyty Cymreig yn Netley, rhan o rwydwaith enfawr o ysbytai milwrol yn Hampshire.
Cyfeirnod: WaW0297
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am benodi Mary Herbert i Ysbyty Milwrol Whitchurch. Cambrian News 13eg Gorffennaf 1917
Cerdyn cofnod y Groes Goch
Cerdyn Croes Goch ar gyfer y dosbarthwr tabledi Mary Ellen Herbert.
Yr Ysbyty Cymreig, Netley
Yr Ysbyty Cymreig, Netley.
Gertie Thomas
Man geni: Caerfyrddin
Nodiadau: Cymhwysodd Gertie Thomas yn ddosbarthwraig tabledi gyda Chymdeithas Apothecari Llundain yn Awst 1916. Dim ond newydd droi 19 oed ydoedd, yr oedran ieuengaf ar gyfer gwenud y cymhwyster hwn.
Cyfeirnod: WaW0307
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am lwyddiant Gertie Thomas. Carmarthen Reporter 11eg Awst 1916.
Maud Jarman (Larnder)
Man geni: Llangrwyne, Sir Drefaldwyn
Gwasanaeth: QMAAC, 1918/07/25 - 1919/05/13
Nodiadau: Roedd Maud Jarman wedi bod yn gweithio yn forwyn tŷ am dair blynedd, yn gyfredol yng Ngwesty’r Wynnstay Arms, Machynlleth, pan ymatebodd i hybyseb am QMAACau yn y Cambrian News. Ymunodd yng Nghaerdydd yng Ngorffennaf 1918 i wasanaethu yn weinyddes mewn nifer o ganolfannau milwrol. Ar ôl iddi gael ei rhyddhau o’r Corfflu ym Mai 1919 ymddengys bod cryn ansicrwydd am ei hôl-dâl a’i thâl salwch. Ymddengys bod ansicrwydd ynglŷn â phwy ddylai ei thalu. Mae llawer o’i ffeil yn yr Archifau Cenedlaethol yn ymdrin â’r broblem hon.
Ffynonellau: National Archives WO-398-117-26
Cyfeirnod: WaW0318
Lythyr
Llythyr gan Maud Jarman yn gofyn am gael ymuno â’r QMAAC. Yr Archifau Cenedlaethol.
Llythr (cefn)
Llythyr gan Maud Jarman yn gofyn am gael ymuno â’r WAAC (cefn). Yr Archifau Cenedlaethol.
Hysbyseb papur newydd
Hysbyseb am QMAACau. Efallai mai dyma’r un y cyfeiria Maud ato yn ei llythyr. Cambrian News 31ain Mai 1918.
Dogfen QMAAC
Rhan o ohebiaeth swyddogol am dâl Maud Jarman. Archifau Cenedlaethol.
Mabel Elsie Davies
Man geni: Fforest fach
Gwasanaeth: NEF Pembrey
Nodiadau: Merch hynaf Eliza [qv] a Huw Davies oedd Mabel. Roedd hi’n bedair ar ddeg oed pan fu farw ei thad, a dechreuodd weithio ym Mhen-bre. Pan ddarganfuwyd ei hoedran cafodd ei symud i weithio i’r cantîn.
Ffynonellau: People’s Collection Wales
Cyfeirnod: WaW0322
Mabel Elsie Davies
Ffotograff stiwdio o Mabel Davies. Perchennog Mrs Dorothy Jones.
not known / anhysbys Knott
Man geni: Pont-y-pridd
Gwasanaeth: not known / anhysbys
Nodiadau: Does dim byd yn hysbys ar hyn o bryd am Nyrs Knott y gwelir ei henw ar Restr Anrhydedd Eglwys St Matthew, Trallwng, Pontypridd.
Cyfeirnod: WaW0140
Rhestr anrhydedd
Enw Nyrs Knott ar Restr Anrhydedd Eglwys St Matthew, Trallwng, Pontypridd. Trwy garedigrwydd Dr Gethin Matthews.
Gladys May Snell
Man geni: Tregatwg, Y Barri
Nodiadau: Arestiwyd Gladys Snell ar 7fed Mai 1919 am fabanladdiad ei mab siawns 21 mis oed Ieuan Ralph. Roedd wedi cael ei foddi. Anfonwyd hi o’r llys ynadon i’r Brawdlys yn Abertawe. Ni allai’r rheithgor yno gytuno, ac felly ymddangosodd gerbron Brawdlys Tachwedd, lle cafwyd Gladys, a oedd yn 19 oed yn euog o ddyn-laddiad yn hytrach na llofruddiaeth. Dedfrydwyd hi i garchar am naw mis. Cyfrannodd nifer o ewyllyswyr da ar draws de Cymru, gan gynnwys y Sgowtiaid, at gronfa i dalu am ei hamddiffyniad. Gwelir y stori ar ei hyd ar dudalen flaen y Cambrian Daily News, 25ain Gorffennaf 1919.
Cyfeirnod: WaW0364
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am arestio Gladys May Snell am fabanladdiad Barry Dock News 9fed Mai 1919.
Llythyr papur newydd
Llythyr yn apelio am gronfa i amddiffyn Gladys Snell. Barry Dock News 16eg Mai 1919.
Cyfrifon y gronfa amddiffyn
Rhoddion i gronfa amddiffyn Gladys May Snell, Barry Dock News 27ain Mehefin.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am fethiant y y rheithgor i gytuno ar ddedfryd. Cambria Daily leader 26ain Gorffennaf 1919.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad papur newydd am ddedfryd y rheithgor o ddynladdiad. Barry Dock News 7fed Tachwedd 1919.
Ada May King
Man geni: anhysbys
Gwasanaeth: TVR
Nodiadau: Rhegodd rhyw Alfred Collins ar Ada, porthor rheilffordd, a’i tharo yn ei mynwes, yng ngorsaf Aberdâr. Roedd e’n ceisio osgoi talu am docyn (eto).
Cyfeirnod: WaW0372
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am yr ymosodiad ar Ada King. Aberdare Leader 5ed Mai 1917.
Gwyneth Marjorie Bebb (Thomson)
Man geni: Rhydychen
Marwolaeth: 1921, Edgbaston, Birmingham, Complications of childbirth / Cymhlethdodau esgor
Nodiadau: Symudodd Gwyneth Bebb i Gymru pan benodwyd ei thad, Llewellyn John Montford Bebb, yn Brifathro Coleg Dewi Sant, Llanbedr pont Steffan yn 1898. Mynychodd Ysgol y Merched Llambed am gyfnod (roedd yn frwd dros chwarae hoci). Astudiodd y gyfraith yng Ngholeg St Hugh, hi oedd y chweched fenyw i astudio’r gyfraith yn Rhydychen, a’r gyntaf i ennill marciau dosbarth cyntaf yn ei harholiadau terfynol, er na châi raddio. Yn 1931 dechreuodd hi a thair menyw arall achos cyfreithiol aflwyddiannus a elwid Bebb yn erbyn Cymdeithas y Gyfraith, i alluogi menywod i ymuno â’r proffesiwn cyfreithiol. Roedd cryn gefnogaeth i hyn yn y wasg Gymreig. Erbyn y dyddiad hwn gallai menywod ymuno â phob proffesiwn arall ac eithrio’r gyfraith a’r Eglwys. Methodd yr achos ac ni chafodd menywod fynediad i’r proffesiwn cyfreithiol tan wedi pasio Deddf Gwahardd (Symud ymaith) ar sail Rhyw, 1919. Yn ystod y rhyfel gweithiodd Gwyneth yn y Weinyddiaeth Fwyd. Yn Bennaeth Adran Gyfreithiol y Weinyddiaeth Fwyd yn y Canolbarth defnyddiodd ei sgiliau cyfreithiol i erlyn y rhai oedd yn gweithredu ar y farchnad ddu. Tra yno cwrddodd a phriododd â T W Thompson, cyfreithiwr. Ganwyd ei baban cyntaf wedi i Ddeddf Gwahardd (symud ymaith) ar sail Rhyw ddod yn ddeddf. Yn fuan wedyn derbyniwyd hi i astudio ar gyfer y Bar yn Lincoln’s Inn. Hi fuasai bargyfreithwraig gyntaf Prydain petai heb farw yn 31 oed yn dilyn genedigaeth drasig ei hail blentyn.
Llun ac erthygl bapur newydd ‘Are Lawyers Afraid of Women’s Brains?’ Daily Sketch, Rhagfyr 1913.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am gêm hoci rhwng Tîm Menywod Llambed a Thîm Ysgol y Merched Llambed. Gwyneth yw’r unig ferch ysgol i’w henwi. Carmarthen Journal 27ain Mehefin 1903.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am dystiolaeth Gwyneth Bebb gerbron y Llys Apêl. Carmarthen Weekly Reporter 4ydd Gorffennaf 1913.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am dderbyn Gwyneth Bebb (Mrs Thomson) i Lincoln’s Inn. Cambria Daily Leader 31ain Rhagfyr 1919.
Elizabeth Roberts
Man geni: Sir Ddinbych ?
Nodiadau: Mae cerdyn y Groes Goch yn cofnodi i Elizabeth weithio am 11 mis fel golchwraig yn Ysbyty Atodol Bryncunallt, Y Waun am 4-5 diwrnod yr wythnos, un ohonynt heb dâl. Roedd ei gŵr yn löwr, ac i ffwrdd yn ymladd. Yn ôl y penswyddog ‘Roedd y gwaith yn drwm iawn, a gweithiodd oriau ychwanegol heb rwgnach, a gwneud y gwaith yn rhagorol.’ Nid oedd yn Aelod o’r Groes Goch Brydeinig.
Cyfeirnod: WaW0417
Cerdyn cofnod y Groes Goch
Cofnod y Groes Goch ar gyfer Elizabeth Roberts.
Cerdyn cofnod yr Groes Goch [cefn]
Cerdyn cofnod y Groes Goch ar gyfer Elizabeth Roberts [cefn] yn nodi ei gwasanaeth.