Nodiadau: Nid oes unrhyw beth yn hysbys am Mary Davies, y gwelir ei henw ar Restr Anrhydedd Capel Cymraeg Kings Cross, Llundain
Cyfeirnod: WaW0198
Rhestr Anrhydedd
Rhestr Anrhydedd y rhai a wasanaethoodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, Capel Cymraeg Kings Cross, Llundain
Enw Mary Davies ar y Rhestr Anrhydedd
Enw Mary Davies ar Restr Anrhydedd y rhai a wasanaethodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, Capel Cymraeg Kings Cross, Llundain.
Mary R Jones
Gwasanaeth: Nyrs, QAIMNS reserve / Wrth gefn yn y QAIMNS
Nodiadau: Gwelir enw Mary yn rhif 21 ar Restr Anrhydedd y rhai a wasaethodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, Capel Cymraeg Kings Cross, Llundain. Mae’n rhaid ei bod yn nyrs wedi ei hyfforddi yn gweithio yn Llundain, ond nid oes unrhyw wybodaeth arall amdani.
Cyfeirnod: WaW0199
Rhestr Anrhydedd
Rhestr Anrhydedd y rhai fu’n gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf, Capel Cymraeg Kings Cross, Llundain
Enw Mary Jones ar Restr Anrhydedd
Enw Mary R Jones ar Restr Anrhydedd y rhai fu’n gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf, Capel Cymraeg Kings Cross, Llundain
Nancy Roberts
Gwasanaeth: Nyrs, VAD ?
Nodiadau: Nid oes unrhyw beth yn hysbys am Nancy Roberts, y gwelir ei henw yn rhif 60 ar Restr Anrhydedd y rhai fu’n gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf, yng Nghapel Cymraeg Kings Cross, Llundain
Cyfeirnod: WaW0201
Rhestr Anrhydedd
Rhestr Anrhydedd y rhai fu’n gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf, Capel Cymraeg Kings Cross, Llundain.
Enw Nancy Roberts ar Restr Anrhydedd
Enw Nancy Roberts ar Restr Anrhydedd y rhai fu’n gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf, Capel Cymraeg Kings Cross, Llundain.
Nodiadau: Ganwyd Annie Brewer, a elwid yn Nancy hefyd, yn 1874. Gweithiai ei thad yn ffatri Dos Road Nail. Hyfforddodd mewn ‘nyrsio a gofalu am bobl gwallgof’ yn 1899. Ar ôl rhai blynyddoedd yn gweithio mewn ysbytai ymddengys iddi fynd yn nyrs / cydymaith, gan deithio i sawl rhan o Ewrop. Pan dorrodd y Rhyfel ymunodd ag ysbyty a sefydliad ambiwlans Ffrengig preifat, y Fondation Baye, a gweithiodd yn rhan o’r Fondation mewn sawl rhanbarth lle roedd rhyfel yn Ffrainc. Cafodd ei hanafu pan fomiwyd ei hambiwlans, a chafodd sawl afiechyd difrifol arall. Arhosodd yn Ffrainc ym Myddin y Goresgyniad tan ddiwedd 1920. Cafodd ei hanrhydeddu sawl gwaith gan Lywodraeth Ffrainc, gan gynnwys dwy wobr Croix de Guerre a hefyd y Legion d’Honnour. Yn ystod ei chyfnod yn Ffrainc priododd yrrwr ambiwlans ifanc, Daniel Mistrick. Dychwelodd i Gasnewydd yn gynnar yn 1921 i nyrsio ei mam, ond bu farw’n fuan wedyn. rnTynnodd Annie lawer o luniau o’i hamser yn Ffrainc, a chafodd hithau dynnu ei llun gan eraill droeon. Gwelir detholiad ohonynt isod.
Ffotograff o Annie (Nancy) a dynnwyd yn Torquay, 13.3.15
Annie Brewer ac ambiwlans
Annie Brewer y tu allan i ambiwlans yn cael ei yrru efallai gan Daniel Mistrick
Annie yn y theatr llawdriniaethau
Annie Brewer yn rhoi anesthetig mewn theatr lawdiniaethau gwersyll
Cyhoeddi ennill y Croix de Guerre
Cyhoeddiad yn y Journal Officiel de la Republique Français, 17eg Rhagfyr 1917: Miss BREWER (Nancy), nyrs wirfoddol yn yr uned de Baye, yn yr ysbyty yn Dugny: nyrs fedrus iawn y gwelwyd ei chryfder moesol a’i hymroddiad yn amlwg ar sawl achlysur, yn enwedig ar 18 Awst 1917 pan sieliwyd ei hambiwlans. Ar y diwrnod hwnnw dangosodd esiampl ragorol o hunanfeddiant a heb ystyried perygl o gwbl, gan roi ei gofal yn hael i’r milwyr clwyfedig tra roedd y gelyn yn tanio arnynt.
Nyrsys yn edrych ar zeppelin
Llun gan AB o grŵp o nyrsys yn edrych i fyny ar zeppelin yn hedfan heibio.
Dyn ifanc yn ymdrochi
Llun AB o ddyn ifanc, Daniel Mistrick efallai, yn ymdrochi mewn afon.
Annie Brewer
Annie Brewer mewn twll ymochel wedi’i orchuddio ag eira
Cyhoeddi gwobr Medaille de la Reconaissance français
Cyhoeddiad yn y Journal Officiel de la Republique Français 22ain Hydref 1920: Miss Brewer (Annie Elizabeth, Nancy), Prydeinig, uwch nyrs yn yr uned Mlle de rnBaye: mae hi wedi bod gyda’r uned hon yn y Ffrynt ers 1915, yn Vitry-le-François, yn Deuxnouds, cyn Beauzée, yn Souilly, yn Dugny; ers i’r Cadoediad fod ynghlwm wrth Fyddin y Goresgyniad, yn enwedig yn Saarbrücken; cafodd ei tharo’n wael yn Ebrill 1918, ac mae wedi gorfod bod yn yr ysbyty am amser maith; prin ei bod yn gallu dychwelyd at ei gwaith, ond yn gosod tasgau newydd, ymhell y tu hwnt i’w nerth, i’w hun bob dydd; ar hyn o bryd mae’n derbyn triniaeth yn yr ysbyty am gyflwr a ddisgrifir gan y meddygon yn un difrifol iawn.
Dorothea Margaret Seagrave Pryse-Rice (Evans)
Man geni: Llundain, 1894
Gwasanaeth: Nyrs, VAD, 1914 – 1919?
Marwolaeth: 1921/12/5, Cricket St Thomas, Dyfnaint, Influenza / Yffliw
Cofeb: Eglwys Sant Dingad, Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin
Nodiadau: Roedd Dorothea a’i chwaer Nest yn ferched i Margaret Pryse-Rice, Llywydd y Groes Goch yn Sir Gaerfyrddin. Nid yw cerdyn cofnod Dorothea wedi goroesi, ond mae’n debyg iddi wasanaethu yn VAD am y rhan fwyaf o’r rhyfel. Priododd arwr rhyfel, y Brigadydd-Gadfridog Lewis Pugh Evans VC, yn Hydref 1918, cafodd fab yn 1920, a bu farw o’r ffliw yn 1921, yn 27 mlwydd oed.
Plac coffáu Dorothea a Nest Pryse-Rice, Eglwys Sant Dingad, Llanymddyfri
Bedd Dorothea Pryse-Rice
Bedd Dorothea Pugh/ gynt Pryse-Rice, Eglwys Sant Dingad, Llanymddyfri
Lewis Pugh Evans VC
Gŵr Dorothea, Lewis Pugh Evans VC
Newspaper report
Adroddiad am briodas Dorothea Pryse-Rice a Lewis Pugh Evans yn Llundain, Hydref 1918
Carine Evelyn Nest Pryse-Rice
Man geni: Llundain
Gwasanaeth: Nyrs, VAD, 1914 – 1919
Marwolaeth: 1921, Ffordun, Sir Drefaldwyn , Not known / Anhysbys
Cofeb: Eglwys Sant Dingad, Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin
Nodiadau: Roedd Nest a’I chwaer Dorothea yn ferched i Margaret Pryse-Rice, Llywydd y Groes Goch yn sir Gaerfyrddin. Gwasanaethodd gydol y rhyfel, yn bennaf yn Ysbyty Atodol Llanymddyfri ond yn 1918-1919 yn Ysbyty Nannau ar gyfer Swyddogion, Dolgellau. Bu farw yn 25 mlwydd oed.
Plac coffáu Dorothea a Nest Pryse-Rice, Eglwys Sant Dingad, Llanymddyfri
Bedd Nest Pryse-Rice
Bedd Nest Pryse-Rice, mynwent Eglwys Sant Dingad, Llanymddyfri
Cofnod y Groes Goch
Cerdyn cofnod y Groes Goch ar gyfer Nest Pryse-Rice
Flossie Hamer Lewis
Man geni: Llanelwy
Gwasanaeth: Nyrs, VAD
Marwolaeth: 1917/03/22, Llanelwy, ‘strain and overwork’ / ’straen a gorweithio’
Nodiadau: Gweithiodd Flossie Hamer Lewis yn Ysbyty’r Groes Goch, y Rhyl, o’i agoriad. Roedd ei thad yn Llanelwty arolygwr ysgolion yr esbobaeth
Cyfeirnod: WaW0207
Flossie Hamer Lewis
Llun o Flossie Hames Lewis, rhan o’r casgliad ‘Deaths: Nurses Deaths 1919-1920’ yn yr Imperial War Museum
Llythyr
Llythyr oddi wrth dad Flossie, y Parch. J Hamer Lewis at ysgrifennydd Casgliad Menywod, Imperial War Museum, Mehefin 29ain, 1918
Llythyr (cefn)
Llythyr oddi wrth dad Flossie, y Parch. J Hamer Lewis ar ysgrifennydd Casgliad Menywod, Imperial War Museum, Mehefin 29ain, 1918 (cefn)
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am farwolaeth Flossie Hamer Lewis, Denbighshire Free Press 31ain Mawrth 1917
Adroddiad papur newydd
Gwobr am nyrsio i Flossie Hamer Lewis, Denbighshire Free Press 16eg Mawrth 1918
Ryda Rees
Man geni: Cei Newydd, Ceredigion
Gwasanaeth: Nyrs, VAD, 1915 - 1919
Marwolaeth: 1919/11/16, illness / salwych
Nodiadau: Roedd Ryda yn 29 oed pan fu farw. Bu’n gwasanaethu yn 3edd Ysbyty Gorllewinol, Caerdydd ‘nes i’w hiechyd ddirywio’.
Cyfeirnod: WaW0206
Ryda Rees
Casglwyd llun Ryda gan Isbwyllgor Menywod yr Imperial War Museum yn rhan o’i chasgliad o fenywod a fu farw yn ystod y rhyfel.
Llythyr
Llythyr at Ysgrifennydd Pwyllgor y Menywod oddi wrth fam ryda, Mary Rees, 16eg Mawrth 1920
Cerdyn cofnod y Groes Goch
Cerdyn Cofnod y Groes Goch ar gyfer Ryda Rees
Cerdyn cofnod y Groes Goch (cefn)
Cerdyn cofnod y Groes Goch ar gyfer Ryda Rees (cefn)
Hannah Dunlop Mark
Man geni: Pen-y-bont ar Ogwr
Gwasanaeth: Nyrs, TFNS
Marwolaeth: 1918/10/10, Ysbyty Cyffredinol Rhif 1, Fazackerley, Lerpwl, Pneumonia following influenza / Niwmonia yn dilyn y ffliw
Nodiadau: Ymddengys i Hannah, a oedd yn nyrs wedi ei hyfforddi, fawr o’r Ffliw Sbaenaidd. Roedd hi’n 23 mlwydd oed pan fu farw, claddwyd ym mynwent Pen-y-bont ar Ogwr
Casglwyd llun Hannah gan Isbwyllgor Menywod yr Imperial War Museum yn rhan oi chasgliad o fenywod a fu farw yn ystod y rhyfel.
Llythyr
Llythyr at Ysgrifennydd y Pwyllgor Menywod gan frawd Hannah, yr Is-gapten David Mark, Tachwedd 16eg, 1918
Adroddiad Papur newydd
Rhybudd am farwolaeth Hannah, Glamorgan Gazette, 11fed Hydref 1918
Rhybudd Coffáu
Rhybudd yn coffáu marwolaeth Hannah yn y Glamorgan Gazette 10fed Hydref 1919
Florence Missouri Caton
Man geni: ’ar y môr’ oddi ar Ciwba
Gwasanaeth: Nyrs, SWH, September 1915 – July 1917 /
Marwolaeth: 1917/7/15, Salonica, Appendicitis / Llid y pendics
Nodiadau: Ganwyd Florence Missouri Caton ar fwrdd llong (efallai mai dyma darddiad ei henw canol, er nad oes prawf o hyn eto) tua 1876, i rieni o Wrecsam. Roedd wedi ei hyfforddi’n nyrs, a gweithiodd yn Sir Gaerhirfryn cyn ymuno ag Ysbytai Menywod yr Alban yn 1915. Bu’n gweithio dros ddau gyfnod yn y Balcanau. Yn fuan ar ôl iddi gyrraedd yno’n 1915 cipiwyd ei huned gan yr Awstriaid, a chafodd ei rhyddhau ym misrnRhagfyr. Yn Awst dychwelodd i Serbia, gan weithio mewn sawl ysbyty a gorsafoedd triniaeth nes y bu farw o lid y pendics yng Ngorffennaf 1917. Claddwyd hi ym Mynwent Filwrol Lembet Road, Salonica. rn