Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl carfan
Edith Townsend
Man geni: Caerdydd
Gwasanaeth: Gweinyddes, QMAAC, 1918 -
Nodiadau: Roedd Edith Towsend a’i chwaer Gladys yn gysylltiedig ag Eglwys Fethodistaidd Wesleaidd Roath Road, Caerdydd. Disgrifion nhw eu profiadau cynnar yn y Roath Roamer (Cyf.44, t.6). Ar ôl hyfforddi treulion nhw’u hamser ger Woolwich (a chael profiad o dri chyrch awyr), cyn cael eu hanfon i’r gogledd i Newcastle, a oedd, meddent ‘yn debyg iawn i Gaerdydd’. Y ddelwedd a’r wybodaeth trwy garedigrwydd Archifdy Morgannwg (DWESA6).
Ffynonellau: https://archifaumorgannwg.wordpress.com/
Cyfeirnod: WaW0120
Gladys Townsend
Man geni: Caerdydd
Gwasanaeth: Gweinyddes, QMAAC, 1918 -
Nodiadau: Roedd Gladys Towsend a’i chwaer Edith yn gysylltiedig ag Eglwys Fethodistaidd Wesleaidd Roath Road, Caerdydd. Disgrifion nhw eu profiadau cynnar yn y Roath Roamer (Cyf.44, t.6). Ar ôl hyfforddi treulion nhw’u hamser ger Woolwich (a chael profiad o dri chyrch awyr), cyn cael eu hanfon i’r gogledd i Newcastle, a oedd, meddent ‘yn debyg iawn i Gaerdydd’. Y ddelwedd a’r wybodaeth trwy garedigrwydd Archifdy Morgannwg (DWESA6).
Ffynonellau: https://archifaumorgannwg.wordpress.com/
Cyfeirnod: WaW0121
Amy Laura Whitcombe
Man geni: Hengoed
Gwasanaeth: Gweithwraig, QMAAC
Marwolaeth: 1918-11-03, S C Convalescent Hospital, Plymouth, Influenza / Y Ffliw
Cofeb: Cofeb Ryfel, Ystrad Mynach a Hengoed, Morgannwg
Nodiadau: 24 oed.
Cyfeirnod: WaW0063
Ada Doris Maud Lesser (Radcliffe)
Man geni: Nova Scotia
Gwasanaeth: Gweithwraig , QMAAC
Marwolaeth: 1918/12/04, ]Ysbyty Milwrol Tidsworth, Wiltshire , Influenza / y ffliw
Cofeb: Cycladdfa Dan-y-graig, Abertawe, Morgannwg
Nodiadau: Ganwyd Ada tua 1879, a symudodd ei theulu i Abertawe. rnPriododd Arthur Charles Lesser yn Rhagfyr 1899. Yn ôl yr adysgrif a rei bed yr oedd yn 36 oed pan fu farw, ond mae’n debygol ei bod yn hŷn na hynny. Diolch i Diana Morgan.
Cyfeirnod: WaW0190
Mary Ann Evans
Man geni: Glyn Ebwy
Gwasanaeth: Cogyddes gynorthwyol , QMAAC
Marwolaeth: 1919/03/23, Percy House Auxiliary Military Hospital, Isleworth, Middlesex, Influenza ? / Fliw ?
Nodiadau: Yn ol cyfrifiad 1911 roedd Mary Ann, mae’n debyg, o deulu Cymraeg ei iaith. Roedd ei thad yn fforman mewn pwll glo. Roedd hi’n gweithio ym Middlesex pan fu farw. O’r ffliw mwy na thebyg. Mae ei henw wedi ei gofnodi’n ddiweddar ar garreg fedd goffaol yng nghladdfa Risga.
Ffynonellau: http://firstworldwar.gwentheritage.org.uk/content/catalogue_item/mary-ann-evans
Cyfeirnod: WaW0283
Daisy Morris
Man geni: Llandudoch
Gwasanaeth: Gweithwraig ffatri arfau ? yna Clerc – Teleffonydd , QMAAC, 1918/06/06 – 1919/05/06
Nodiadau: Ganwyd hi yn LLandudoch yn 1895, roedd ei thad yn wyliwr y glannau. Efallai i Daisy weithio mewn ffatri arfau rhyfel yn Nociau’r Barri. Pan ymunodd â’r QMAAC yn 1918 roeddyn byw yn Barrow, ger ei chwaer a oedd yn byw yn Flookburgh, gogledd Swydd Gaerhirfryn.
Ffynonellau: National Archives WO-398-159-25
Cyfeirnod: WaW0309
Maud Jarman (Larnder)
Man geni: Llangrwyne, Sir Drefaldwyn
Gwasanaeth: QMAAC, 1918/07/25 - 1919/05/13
Nodiadau: Roedd Maud Jarman wedi bod yn gweithio yn forwyn tŷ am dair blynedd, yn gyfredol yng Ngwesty’r Wynnstay Arms, Machynlleth, pan ymatebodd i hybyseb am QMAACau yn y Cambrian News. Ymunodd yng Nghaerdydd yng Ngorffennaf 1918 i wasanaethu yn weinyddes mewn nifer o ganolfannau milwrol. Ar ôl iddi gael ei rhyddhau o’r Corfflu ym Mai 1919 ymddengys bod cryn ansicrwydd am ei hôl-dâl a’i thâl salwch. Ymddengys bod ansicrwydd ynglŷn â phwy ddylai ei thalu. Mae llawer o’i ffeil yn yr Archifau Cenedlaethol yn ymdrin â’r broblem hon.
Ffynonellau: National Archives WO-398-117-26
Cyfeirnod: WaW0318
Llythr (cefn)
Llythyr gan Maud Jarman yn gofyn am gael ymuno â’r WAAC (cefn). Yr Archifau Cenedlaethol.
Hysbyseb papur newydd
Hysbyseb am QMAACau. Efallai mai dyma’r un y cyfeiria Maud ato yn ei llythyr. Cambrian News 31ain Mai 1918.
Margaret Davies
Man geni: Pontymister ?
Gwasanaeth: Cogyddes, QMAAC
Marwolaeth: 1919/02/18, Anhysbys, Not known / Anhysbys
Cofeb: Clafa Hen Rhisga, Rhisga, Sir Fynwy
Nodiadau: Nid oes fawr ddim yn hysbys am Madge Davies a oedd yn gogyddes yn y QMAAC.
Cyfeirnod: WaW0350
Editha Elma (Bailey), Lady Glanusk (Sergison)
Man geni: Haywards Heath, Sussex
Gwasanaeth: ‘Gweithwraig weithredol yn y rhyfel’, Red Cross
Nodiadau: Ganed Arglwyddes Glanusk yn 1871 a phriododd 2il Farwn Glanusk yn 1890. O ddechrau’r rhyfel bu’n weithgar yn yr ymdrech ryfel, gan ysgrifennu’n ddibaid i annog menywod i annog eu gwŷr i ymrestru, ac yn galw am garcharu estroniaid o blith y gelyn. Hi oedd Llywydd y Groes Goch yn Sir Frycheiniog, (derbyniodd y CBE am hyn yn 1920), a bu’n dra gweithgar yn Ysbyty’r Groes Goch, Penoyre yn Aberhonddu. Lladdwyd dau o’i meibion yn y rhyfel, canol-longwr 17 oed oedd un ohonynt.
Cyfeirnod: WaW0228
Llythyr papur newydd
Llythyr i fenywod Sir Frycheiniog a gyhoeddwyd yn y Brecon County Times, 5ed Tachwedd 1914
Llythyr paur newydd
Llythyr am Beryglon y Gelyn Estron a gyhoeddwyd yn y Brecon County Times 25ain Mawrth, 1915
Cerdyn cofnod y Groes Goch (cefn)
Cerdyn cofnod y Groes Goch yn manylu ar wasanaeth Arglwyddes Glanusk (cefn)
Mabel Dearmer
Man geni: Llanbleblig, 1872
Gwasanaeth: Gwirfoddolwraig, Red Cross/Y Groes Goch
Marwolaeth: 1915-07-11, Serbia, Typhus/Pneumonia Teiffws/ Niwmonia
Nodiadau: Roedd Mabel Dearmer, a aned yn 1872, yn awdur, dramodydd ac arlunydd llwyddiannus llyfrau i oedolion a phlant. Roedd hi a’i gŵr y Parch. Percy Dearmer ill dau yn heddychwyr ac yn gefnogwyr y Church League for Women’s Suffrage. Pan dderbyniodd ei gŵr swydd yn gaplan y Groes Goch Brydeinig yn Serbia, gwirfoddolodd hithau i fynd hefyd, a bu farw yng Ngorffennaf 1915. Cyhoeddwyd ei llythyron adref ar ôl ei marw yn ‘Letters from a Field Hospital’.
Ffynonellau: http://britishlibrary.typepad.co.uk/untoldlives/2014/08/mabel-dearmer-in-serbia.html https://www.amazon.com/Letters-field-hospital-Mabel-Dearmer/dp/117677140X#reader_117677140X
Cyfeirnod: WaW0092
Mabel Dearmer
Casglwyd ffotograff Mabel gan Is-bwyllgor Menywod yr Imperial War Museum fel rhan o’i gasgliad o fenywod fu farw yn ystod y rhyfel. rnrn
Rhestr Staff Ysbyty Stobart
Rhestr staff Ysbyty Stobarth, Kragujevac, Serbia. ‘Rhestrir enw ‘Dearmer, Mrs Percy’ dan y cynorthwywyr benywaidd ac roedd ei gŵr Dr P Dearmer yn Gaplan Anrhydeddus. Rhestrir Emily Hill [qv] dan ‘Chwiorydd Nyrsio’