English

Profiadau Menywod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf

Casgliad o wybodaeth, profiadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2014-18

Casgliad o wybodaeth, profiadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2014-18


Chwilio
Chwilio uwch

Menywod yng Nghymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf

QMAAC recruitment poster (c) Imperial War Museum

QMAAC recruitment poster

Nod Archif Menywod Cymru yw diogelu a hyrwyddo hanes menywod yng Nghymru.

Mae llawer wedi ei wneud i gofnodi gweithgaredd dynion fu’n brwydro, ac a fu farw droeon, yn ystod y Rhyfel Mawr. Talwyd llai o sylw i fenywod a anwyd, neu a oedd yn byw, yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwn. Amcan y wefan hon yw cofnodi eu henwau, a rhoi brasluniau o’u bywydau ac mewn sawl achos eu marwolaethau. Bu llawer o’r defnydd hwn ar gael ar wefannau lleol ac ar negesfyrddau’r Rhyfel Byd Cyntaf, ond dyma’r ymgais gyntaf i gofnodi’r defnydd hwn mewn un man, ac i greu darlun yn cwmpasu Cymru gyfan.

Rydym yn casglu gwybodaeth am fenywod a merched yn, ac o, Gymru. Ar ddechrau’r rhyfel roedd rhai menywod eisoes mewn swyddi fel nyrsio: ymunodd rhai o’r menywod hyn â Gwasanaeth Nyrsio Milwrol Ymerodrol y Frenhines Alexandra, y QAIMNS yn gynnar yn y rhyfel. Aeth eraill i weithio yn y ffatrïoedd arfau, neu o 1917 ymlaen, ymunon nhw â Chorfflu Cynorthwyol Byddin y Menywod, y WAAC, Awyrlu Brenhinol y Menywod, y WRAF neu Wasanaeth Morwrol Brenhinol y Menywod, y WRENS. Gwirfoddolodd sawl un gyda’r Groes Goch, gan hyfforddi yn Fintai Gymorth Gwirfoddol, VAD, neu yn trefnu cyflenwadau i ysbytai. Parhaodd menywod o deuluoedd amaethyddol i weithio ar y tir. Ymunodd rhai ohonyn nhw â Byddin Dir y Menywod pan sefydlwyd hi yn 1917. Gwnaeth eraill ‘swyddi dynion’, mewn ffatrïoedd, swyddfeydd ac ym maes cludiant. Bu bron pob menyw a merch, ifanc neu hen, yn gwnïo neu’n gwau ‘cysuron’ i’r milwyr. A phryderai’r rhan fwyaf o’r menywod gartref am eu tadau, eu gwŷr, eu cariadon a’u meibion, a hynny wrth geisio ymdopi â phrinder bwyd. Rhoddodd rhai menywod dosbarth canol y gorau i’r ymdrech hon, a mynd i fyw i westai.

Collodd llawer o Gymryesau eu bywydau yn ystod y Rhyfel. Boddodd stiwardesau a nyrsys pan suddwyd eu llongau gan dorpido neu mewn gwrthdrawiad; lladdwyd gweithwragedd yn y ffatrïoedd arfau gan ffrwydradau neu gan wenwyn cemegol, a hawliodd y ffliw fywydau llawer o nyrsys ac eraill yn 1918-19. Hyd yn hyn, rydym wedi darganfod enwau bron 50 o’r menywod hyn ar gofebion rhyfel ledled Cymru.

Cafodd y Rhyfel effaith ddwys ar fenywod yng Nghymru. Yng nghyfrifiad 1921, roedd mwy o fenywod na dynion ym mhoblogaethau pob sir yng Nghymru, heblaw Morgannwg a Mynwy, ac yn achos sir Gaernarfon roedd bron 11,000 yn fwy o fenywod. Tynghedwyd llawer ohonynt i fod yn ddi-briod, ac wrth i swyddi gael eu hawlio’n ôl gan ddynion, roedd yn anodd cael deupen llinyn ynghyd. Yn fwy cadarnhaol, rhoddodd Deddf Cynrychiolaeth y Bobl, a basiwyd yn 1918, hawl i fenywod dros ddeg ar hugain oed ac a oedd yn cwrdd â’r rheoliadau ynglŷn ag eiddo, bleidleisio. Ni ryddfreiniwyd pob menyw tan 1928.
Galluogwyd Archif Menywod Cymru i gyflawni’r gwaith hwn trwy gyfrwng grant gan raglen Y Rhyfel Byd Cyntaf: ddoe a heddiw, Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Bydd y wefan hon yn tyfu wrth i ni ychwanegu at ein casgliad a chywain mwy o wybodaeth.

Os oes gennych unrhyw ddefnydd dogfennol yn ymwneud â menywod â chysylltiadau Cymreig, a’ch bod yn barod i’w rannu â ni, cysylltwch â’r safle hwn os gwelwch yn dda.


Administration