Chwilio'r casgliad
Darganfuwyd 1 cofnod.
Annie Elizabeth (Nancy) Brewer (Mistrick)
Man geni: Casnewydd
Gwasanaeth: Nyrs, Fondation Baye
Marwolaeth: 1921/01/30, Casnewtdd, Brights disease
Nodiadau: Ganwyd Annie Brewer, a elwid yn Nancy hefyd, yn 1874. Gweithiai ei thad yn ffatri Dos Road Nail. Hyfforddodd mewn ‘nyrsio a gofalu am bobl gwallgof’ yn 1899. Ar ôl rhai blynyddoedd yn gweithio mewn ysbytai ymddengys iddi fynd yn nyrs / cydymaith, gan deithio i sawl rhan o Ewrop. Pan dorrodd y Rhyfel ymunodd ag ysbyty a sefydliad ambiwlans Ffrengig preifat, y Fondation Baye, a gweithiodd yn rhan o’r Fondation mewn sawl rhanbarth lle roedd rhyfel yn Ffrainc. Cafodd ei hanafu pan fomiwyd ei hambiwlans, a chafodd sawl afiechyd difrifol arall. Arhosodd yn Ffrainc ym Myddin y Goresgyniad tan ddiwedd 1920. Cafodd ei hanrhydeddu sawl gwaith gan Lywodraeth Ffrainc, gan gynnwys dwy wobr Croix de Guerre a hefyd y Legion d’Honnour. Yn ystod ei chyfnod yn Ffrainc priododd yrrwr ambiwlans ifanc, Daniel Mistrick. Dychwelodd i Gasnewydd yn gynnar yn 1921 i nyrsio ei mam, ond bu farw’n fuan wedyn. rnTynnodd Annie lawer o luniau o’i hamser yn Ffrainc, a chafodd hithau dynnu ei llun gan eraill droeon. Gwelir detholiad ohonynt isod.
Ffynonellau: www.bbc.co.uk/blogs/wales/authors/88112f9c-1724-34e3-8c65-6d48968dc06b22cb34378481r_date%22%20and%20%28gallica%20all%20%22nancy%20Brewer%22%29
Cyfeirnod: WaW0187
Annie Brewer ac ambiwlans
Annie Brewer y tu allan i ambiwlans yn cael ei yrru efallai gan Daniel Mistrick
Cyhoeddi ennill y Croix de Guerre
Cyhoeddiad yn y Journal Officiel de la Republique Français, 17eg Rhagfyr 1917: Miss BREWER (Nancy), nyrs wirfoddol yn yr uned de Baye, yn yr ysbyty yn Dugny: nyrs fedrus iawn y gwelwyd ei chryfder moesol a’i hymroddiad yn amlwg ar sawl achlysur, yn enwedig ar 18 Awst 1917 pan sieliwyd ei hambiwlans. Ar y diwrnod hwnnw dangosodd esiampl ragorol o hunanfeddiant a heb ystyried perygl o gwbl, gan roi ei gofal yn hael i’r milwyr clwyfedig tra roedd y gelyn yn tanio arnynt.
Nyrsys yn edrych ar zeppelin
Llun gan AB o grŵp o nyrsys yn edrych i fyny ar zeppelin yn hedfan heibio.
Cyhoeddi gwobr Medaille de la Reconaissance français
Cyhoeddiad yn y Journal Officiel de la Republique Français 22ain Hydref 1920: Miss Brewer (Annie Elizabeth, Nancy), Prydeinig, uwch nyrs yn yr uned Mlle de rnBaye: mae hi wedi bod gyda’r uned hon yn y Ffrynt ers 1915, yn Vitry-le-François, yn Deuxnouds, cyn Beauzée, yn Souilly, yn Dugny; ers i’r Cadoediad fod ynghlwm wrth Fyddin y Goresgyniad, yn enwedig yn Saarbrücken; cafodd ei tharo’n wael yn Ebrill 1918, ac mae wedi gorfod bod yn yr ysbyty am amser maith; prin ei bod yn gallu dychwelyd at ei gwaith, ond yn gosod tasgau newydd, ymhell y tu hwnt i’w nerth, i’w hun bob dydd; ar hyn o bryd mae’n derbyn triniaeth yn yr ysbyty am gyflwr a ddisgrifir gan y meddygon yn un difrifol iawn.