Chwilio'r casgliad
Darganfuwyd 3 cofnod.
Mary Morgan
Gwasanaeth: Gweithwraig arfau rhyfel
Nodiadau: Cyfieithiad o ddyddiadur Gabrielle (Bobbie) West, plismones ym Mhen-bre, 10 Mawrth 1917
‘Mae un ferch yma (Pen-bre) Mary Morgan, sy’n cael y ffitiau mwyaf difrifol. Mae’n mynd yn farw a gwirion am funud ac yna’n goch iawn ei hwyneb, ac yna dechreua ymaflyd yn wyllt iawn, gan dynnu ei gwallt, crafu ei hwyneb a gwyrdroi ei chorff yn erchyll. Mae angen pedwar neu bump ohonom i’w dal i lawr a’i rhwystro rhag ei hanafu ei hun. Hoff ‘feddyginiaeth’ y merched yw trochi’r ddioddefwraig â dŵr oer, ei bwrw a rhoi slap iddi, ei hysgwyd, taflu te poeth rhwng ei dannedd (er, gan ei bod yn anymwybodol na all lyncu) ac yn olaf ond nid yn lleiaf, eistedd ar ei stumog. Dwedodd y ferch arbennig hon wrthyf (Gabrielle West) ar ôl ei ffit ddiweddaraf ei bod mor falch fod y blismones wedi edrych ar ei hôl ac wedi cadw’r merched eraill draw oherwydd y tro diwethaf roedd wedi cleisio gymaint nes iddi fod yn sal am wythnos!’
Ffynonellau: Ed Avalon Richards: Menus, Munitions and Keeping the Peace: The Home Front Diaries of Gabrielle West (Pen and Sword Publishing, 2016)
Cyfeirnod: WaW0223
Gabrielle (Bobby) West
Man geni: Bournemouth
Gwasanaeth: Cogyddes / Plismones, VAD, 1916 - 1917
Marwolaeth: 1990, Achos anhysbys
Nodiadau: Roedd Gabrielle (Bobby) West yr ieuengaf o bum plentyn. Offeiriad oedd ei thad. Yn y dechrau gwirfoddolodd yn cogyddes gyda’r VAD ond ni allai fforddio i barhau i weithio heb dâl, ac felly dechreuodd weithio am dâl mewn cantîn ffatri arfau yn Llundain. Pan ddechreuwyd recriwtio plismonesau i weithio mewn ffatrïoedd arfau rhyfel ymunodd hi a’i ffrind, Miss Buckpitt. Ar ôl cyfnod byr yn Ffatri NEF yn y Fferi Isaf cawsant eu dyrchafu i weithio ym Mhen-bre yn Ionawr 1917. Mae ei hadroddiad am ei chyfnod ym Mhen-bre yn rhoi darlun manwl o fywydau’r gweithwyr yno. Gweler ei hadroddiad am Mary Morgan [qv] a’i ffitiau. Ym Mai 1917 cafodd ei throsglwyddo i’r Ffatri Ordnans Frenhinol, Rotherwas, Swydd Henffordd. Pan oedd hi’n 89 oed recordiodd Bobby ei hanes ar gyfer archifau llafar yr Imperial War Museum.
Ffynonellau: ed Avalon Richards Menus Munitions and Keeping the Peace: The Home Front Diaries of Gabrielle West 1914 -1917. Pen&Sword 2016https://www.iwm.org.uk/collections/item/object/80008574
Cyfeirnod: WaW0308
Gabrielle West
Gabrielle (Bobby) West mewn gwisg swyddogol plismones. Mae hi yn y rhes gefn yr ail o’r chwith.
Pen-bre
Darlun Gabrielle o’r adeiladau peryglus ym Mhen-bre. Dyma meddai lle cai’r gwaith peryclaf ei wneud, roedd y siedau, meddai, i mewn yn y bryniau.
Sergeant [later Inspector] Guthrie
Gwasanaeth: Plismones, Ministry of Munitions Women’s Police Service
Nodiadau: Dechreuodd Sarsiant Guthrie weithio ym Mhen-bre yn Ebrill 1917. Roedd wedi bod yn gweithio i’r heddlu am beth amser. Yn ôl Gabrielle West [qv] ‘Mae Sarsiant Guthrie yn gwneud y lle hwn yn anghyfannedd. Mae hi’n berson rhyfedd iawn: gwallt wedi ei dorri’n grop fel dyn; corff byrdew a dim gwasg fel dyn, traed mawr fel dyn; a math o lais tenor fel dyn. Yn ystod y ddau ddiwrnod cyntaf, nid oedd merched yn fodlon cael eu harchwilio ganddi: roeddent yn dweud ei bod yn ddyn-dditectif, nid yn blismones o gwbl … Beth bynnag, mae hi’n helbulus ac ychydig yn ansad.’
Ffynonellau: ed Avalon Richards Menus Munitions and Keeping the Peace: The Home Front Diaries of Gabrielle West 1914 -1917. Pen & Sword 2016.
Cyfeirnod: WaW0444
Ministry of Munitions Women’s Police Service
Plismonesau mewn ffatri arfau rhyfel (nid Pen-bre) Efallai mai Sarsiant Guthrie sydd yn y rhes gefn, yn ail o’r dde.