Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl cyfeirnod
Mabel Booker
Man geni: Southerndown ?
Gwasanaeth: VAD, VAD, May 1915 – May 1917
Nodiadau: Nid fu Mabel Booker mor gysylltiedig ag Ysbyty Tuscar House â’i chwiorydd [Etta, Nellie, Ethel and Dulcie qv], er ei bod ‘yn barod i helpu pan oedd angen’, a rhoddodd 500 awr o wasanaeth.
Cyfeirnod: WaW0473
Cerdyn Cofnod y Groes Goch (cefn)
Cefn cerdyn y Groes Goch ar gyfer Mabel Booker, yn nodi ei gwasanaeth
Ethel Anna Booker
Man geni: Southerndown ?
Gwasanaeth: Nyrs, Swyddog Cyflenwi. Penswyddog , VAD, 1915/04/01 – 1919/04/30
Nodiadau: Cychwynnodd Ethel Booker ei gwasanaeth yn Tuscar House yn forwyn-cegin wirfoddol, ond daeth yn swyddog cyflewni effeithiol ym mis Awst 1915. Daeth yn Benswyddog yr Ysbyty wedi marwolaeth ei chwaer Nellie [qv] yn 1917. Dywed ei chofnod gwasanaeth (a lanwyd gan ei mam Caroline [qv]) ei bod yn byw yn yr ysbyty ac na chymerodd wyliau yn ystod 18 mis olaf ei chyfnod yno. Ethel a’i chwaer Dulcie [qv] oedd prif drefnwyr digwyddiadau ar gyfer codi arian a difyrru’r cleifion yn yr ysbyty. rn
Cyfeirnod: WaW0474
Cerdyn Cofnod y Groes Goch (cefn)
Cefn cerdyn Ethel Booker, yn manylu ar ei gwasanaeth, ac a ysgrifennwyd gan ei mam, Caroline Booker.
Tuscar House
Ysbyty’r Groes Goch Tuscar House. Southerndown. Defnyddiwyd y tŷ yn ysbyty yn ystod yr Ail Ryfel Byd hefyd.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am Matinée Mawreddog yn Sinema Penybont gan filwyr Tuscar House (ac eraill). Glamorgan Gazette 29 Tachwedd 1918
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am gyflwyniad i Ethel a Dulcie Booker pan gaewyd ysbyty Tuscar House ym mis Ebrill 1919 Glamorgan Gazette 4 Ebrill 1919.
Dulcie Booker
Man geni: Southerndown ?
Gwasanaeth: Nyrs, Chwaer-mewn-gofal, Trysorydd, Ysgrifennydd Ariannol, VAD, 1914/10/01 – 1919/04/30
Nodiadau: Rheolai Dulcie Booker y cyllid ar gyfer sefydlu Ysbyty Tuscar House yn ogystal â chostau beunyddiol ei redeg. O 1917 ymlaen hi oedd y Chwaer-yng-ngofal yn yr Ysbyty. Cymerodd ran flaenllaw, gyda’i chwaer Mabel [qv] yn trefnu adloniant i’r cleifion, gan gynnwys Band Ysbyty’r Groes Goch Tuscar House. Roedd galw am ei gwasanaeth yn gyfeilydd lleol.
Cyfeirnod: WaW0475
Cerdyn Cofnod y Groes Goch (cefn)
Cefn cofnod y Groes Goch ar gyfer Dulcie Booker, yn dangos ei gwasanaeth yn Ysbyty Tuscar.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am y derbyniad ‘Croeso Adre’ a oedd yn cynnwys perfformiad gan Fand Ysbyty Tuscar. Glamorgan Gazette 19 Gorffennaf 1918
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am y Matinée Mawreddog yn Sinema Penybont gan filwyr Tuscar House (ac eraill) Glamorgan Gazette 29 Tachwedd 1918
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am gyflwyniad i Dulcie ac Ethel Booker pan gaewyd ysbyty Tuscar House ym mis Ebrill 1919. Glamorgan Gazette 4 Ebrill 1919
Lily Briggs
Man geni: Y Barri ?
Gwasanaeth: Putain
Nodiadau: rnDedfrydwyd Lily Briggs i un diwrnod ar hugain o lafur caled ym mis Gorffennaf 1915 am geisio denu milwyr ifanc [o wersyll Nell’s Point, Ynys y Barri] i’r caeau. At hyn defnyddiodd iaith fochaidd pan arestiwyd hi. rn
Cyfeirnod: WaW0476
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ymddangosiad a dedfryd Lily Briggs yn y llys fel ‘putain gyffredin’. Barry Dock News 9fed Gorffennaf 1915.
Elizabeth (Lizzie) Thomas
Man geni: Blaendulais
Gwasanaeth: Nyrs, QAIMNSR, 1915 - 1920
Marwolaeth: 1921/09/27, Castell-nedd ?, Tuberculosis / Y dicléin
Cofeb: Blaendulais, Morgannwg
Nodiadau: Ganwyd Lizzie yn 1890 a mynychodd Ysgol Sir Castell nedd a hyfforddi yn nyrs yn Ysbyty Gyffredinol a Llygaid Abertawe. Gwrifoddolodd i ymuno â’r QAIMNS Wrth Gefn yn 1915, ac anfonwyd hi i Salonika trwy’r Aifft ym mis Tachwedd. Dywedir i’r llong filwyr yr oedd hi arni gael ei tharo â thorpido ac iddi dreulio sawl awr yn y dŵr. Dychwelodd adre ym mis Rhagfyr 1916, ac yn Ionawr 1917 cafodd dderbyniad gan y gymuned leol, gan gynnwys ei chyflwyno â medal a chanu cân eithriadol or-glodfawr iddi yn Gymraeg. Treuliodd weddill y Rhyfel, tan ei rhyddhau ym Hydref 1920 yn Ysbyty Milwrol Fort Pitt, Chatham. Gwobrwywyd hi â Medal y Groes Goch ym mis Ebrill 1919. Dychwelodd Lizzie adre i nyrsio yng Nghastell nedd, ond bu farw flwyddyn yn ddiweddarach o’r dicléin. Gwelir ei henw ar Gofeb Ryfel Blaendulais.
Ffynonellau: Jonathan Skidmore: Neath and Briton Ferry in the First World War
Cyfeirnod: WaW0477
Cerdd / cân
Y gân chwithig a berfformiwyd yn nerbyniad Nyrs Thomas ym mis Ionawr 1917. Y cyfansoddwr oedd Mr R.D.Harris a chanwyd hi gan y Mri D.T.Davies a John Hughes. Llais Llafur 6ed Ionawr 1917.
Ffurflen y Fyddin W.3538
Cofnod anfon Lizzie Thomas i Ysbyty Milwrol Fort Pitt, Chatham, 1af Medi 1917
Betty Morris
Man geni: Hwylffordd
Gwasanaeth: Nyrs, VAD, 1915/05/27 – 1918/07/12.
Nodiadau: Ymunodd Betty Morris â’r VAD ym mis Mai 1915, gan weithio’n wreiddiol yn Ysbyty Ategol Cottesmore, Hwlffordd. Ym mis Tachwedd cafodd ei hanfon i Ffrainc, i Boulogne i ddechrau ond cafodd ei dyrchafu i ‘ysbyty mwy’ yn fuan, y nyrs ieuengaf yno, yn 20 oed. Siaradai Ffrangeg yn rhugl, ac arhosodd gyda’r VAD tan fis Gorffennaf 1918. Cyhoeddwyd rhai o’i llythyron adre yn y Haverfordwest and Milford Haven Telegraph.
Cyfeirnod: WaW0478
Llun papur newydd
Llun o Betty Morris yn ei gwisg VAD awyr agored. Haverfordwest and Milton Haven Telegraph 16eg Chwefror 1916
Adroddiad papur newydd
Adroddiad papur newydd am ymadawiad Betty Morris am Ffrainc. Haverfordwest and Milton Haven Telegraph 10fed Tachwedd 1915
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am Nadolig Betty Morris yn Ffrainc. Haverfordwest and Milton Haven Telegraph 16eg Chwefror 1916
M Hopkins
Man geni: Y Barri ?
Gwasanaeth: Glanhawraig locomotifau, Barry Railway Company
Nodiadau: Ar 17eg Gorffennaf 1917 cofnodir yn llyfr damweiniau Rheilffordd y Barri i M Hopkins gael anaf ar ei llaw ar ddarn o weiren (gallasai fod yn anaf difrifol, gan y gallai arwain at wenwyn gwaed). Roedd yn 24 mlwydd oed ac yn cael 18 swllt yr wythnos o dâl. rn
Ffynonellau: Women and the Barry Railway.\\r\\nBlog by Mike Esbester on March 22, 2021 \\r\\n
Cyfeirnod: WaW0479
Maude Downs
Man geni: Y Barri ?
Gwasanaeth: Glanhawraig locomotifau , Barry Railway Company
Nodiadau: rnDatgela llyfr damweiniau Rheilffordd y Barri fod Maud, 23 oed, wedi ei hanafu tra’n gweithio o dan injan ar 17 Medi 1917. Syrthiodd sbring mawr ar ei throed. Nodir ei bod yn cael 23 swllt yr wythnos o dâl. rn
Ffynonellau: Women and the Barry Railway.Blog by Mike Esbester on March 22, 2021
Cyfeirnod: WaW0480
Rachel Barber
Man geni: Y Barri ?
Gwasanaeth: Glanhawraig locomotifau , Barry Railway Company
Nodiadau: Ar 10fed Medi 1917 cafodd Rachel anaf ar ei thalcen wrth iddi ddod allan o dan yr injan a tharo cyplydd yn siglo. Roedd yn 23 oed ac yn ennill 25s 3d yr wythnos. Y tâl cyfartalog i fenywod yn gweithio ar y dyddiad hwnnw oddeutu 10 swllt yr wythnos.
Ffynonellau: Women and the Barry Railway.Blog by Mike Esbester on March 22, 2021
Cyfeirnod: WaW0481
Asa Fish
Man geni: Abertawe ?
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn ffatri arfau rhyfel
Nodiadau: Roedd Ada 22 oed o Hafod, Abertawe, yn gweithio mewn ffatri gwneud arfau rhyfel yn Sheffield lle’r enillodd hi £1 yn wobr mewn cystadleuaeth harddwch a noddwyd gan y Sheffield Telegraph
Cyfeirnod: WaW0482
Adroddiad a llun papur newydd
Ada Fish mewn gwisg gweithwraig ffatri arfau rhyfel. Y Cambrian Daily Leader, 8 Ebrill 1919