Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl cyfeirnod
Irene (Ivy) Ace
Man geni: Dinbych-y-Pyscod
Gwasanaeth: Gweinyddydd Technegol , WAAC, 1917 - 19
Nodiadau: Ganwyd Ivy yn 1892; ymunodd â’r WAAC ym mis Mehefin 1917, a chafodd ei hanfon i Ffrainc fel gweinyddydd. Nid yw ei chofnodion WAAC wedi goroesi, ond o’i ffotograff ymddengys ei bod yn ‘swyddog’ h.y. yn swyddog yn y WAAC. Gwasanaethodd yn Ffrainc am flwyddyn. Ar ôl y Rhyfel bu’n fyfyrwraig amaeth. Cofnodir iddi dderbyn taith mewn awyren ar ei phen-blwydd yn 21ain oed, er gwaetha hyn nid ymddengys iddi gael ei throsglwyddo i’r WRAF, pan ffurfiwyd e yn 1918.
Ffynonellau: Narbeth Museum/Amgueddfa Arberth https://woww.narberthmuseum.co.uk
Cyfeirnod: WaW0483
Irene \'Ivy\' Ace
Man geni: Dinbych-y-Pyscod
Gwasanaeth: Gweinyddydd Technegol , WAAC, 1917 - 19
Nodiadau: Ganwyd Ivy yn 1892; ymunodd â’r WAAC ym mis Mehefin 1917, a chafodd ei hanfon i Ffrainc fel gweinyddydd. Nid yw ei chofnodion WAAC wedi goroesi, ond o’i ffotograff ymddengys ei bod yn ‘swyddog’ h.y. yn swyddog yn y WAAC. Gwasanaethodd yn Ffrainc am flwyddyn. Ar ôl y Rhyfel bu’n fyfyrwraig amaeth. Cofnodir iddi dderbyn taith mewn awyren ar ei phen-blwydd yn 21ain oed, er gwaetha hyn nid ymddengys iddi gael ei throsglwyddo i’r WRAF, pan ffurfiwyd e yn 1918.
Ffynonellau: Narbeth Museum/Amgueddfa Arberth https://woww.narberthmuseum.co.uk\r\n\r\n\r\n
Cyfeirnod: WaW0483
Esther Isaac
Man geni: Aberpennar
Gwasanaeth: Nyrs, QAIMNSR, 1914 - 1920
Nodiadau: Ganwyd Esther yn 1884 a hyfforddodd yn Ysbyty Cyffredinol a Llygaid Abertawe. Ymunodd â nyrsys wrth gefn y QA yn 1914, ac yn 1915 anfonwyd hi i Ysbyty Milwrol Caergrawnt, pryd yr enillodd y Groes Goch Frenhinol. Ym mis Mawrth 1917 anfonwyd hi i Bombay am 15 mis, yna ei throsglwyddo i Ysbyty Neilltuo Baghdad, lle cafodd ei dyrchafu’n Chwaer. Ar ôl y rhyfel gwasanaethodd am sawl blwyddyn yn Fetron yn Ysbyty Llwynypïa. Parhaodd Esther ar restr wrth gefn y QAIMNS tan 1937
Cyfeirnod: WaW0485
Esther Isaac
Llun papur newydd o Esther Isaac yn gwisgo ei Chroes Goch Frenhinol. Aberdare Leader 24 Mehefin 1916.
Rhestr Anrhydedd
Enw ‘Nurse Esther Isaac India’ ar restr anrhydedd Capel yr Annibynwyr, Stryd Henrietta, Abertawe.
Lily Ellis
Man geni: Aberpennar
Gwasanaeth: Nyrs, TFNS, 1914 - 1919
Nodiadau: Roedd Lily yn ferch i arweinydd côr adnabyddus, Hugh Ellis, yn Aberpennar, a hyfforddodd yn Ysbyty Cyffredinol a Llygaid Abertawe. Ar ôl gweithio yn Abertawe a Malvern cafodd ei phenodi yn chwaer theatr yn Ysbyty Lewisham, Llundain. Ar ddechrau’r Rhyfel ymunodd â’r TFNS ac roedd yn gwasanaethu yn yr Ysbyty Cyffredinol Deheuol 1af pan ymwelodd y Brenin George V yn 1916; enillodd y Groes Goch Frenhinol.
Cyfeirnod: WaW0486
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am wobrwyo Lily Ellis â’r Groes Goch Frenhinol. Aberdare Leader 24 Mehefin 1916
Blodwen Phillips (later Jones)
Man geni: Glandŵr?
Gwasanaeth: Athrawes llefaru, Clerc, WAAC, WFAF, 1917 0 1919
Nodiadau: Blodwen Phillips oedd ‘y fenyw gyntaf o’r ardal i wirfoddoli i wasanaeth gweithredol’. Roedd hi ymhlith y grŵp o glercod WAAC a anfonwyd i Ffrainc ddechrau haf 1917. Ysgrifennodd i’r Cambria Daily Leader am sut y derbyniwyd y WAAC yn Ffrainc ac am eu gweithgareddau. Yn 1918 trosglwyddodd i’r WRAF.Un o’i swyddogion WAAC oedd Miss Ace, Ivy Ace [qv] efallai. Ym mis Rhagfyr 1919 priododd Mr H W Jones o Southport yng Nghapel Gomer, Abertawe.
Cyfeirnod: WaW0488
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am argraffiadau Blodwen Phillips o fywydau’r WAAC yn Ffrainc. The Cambria Daily Leader 14 Mai 1918.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am briodas Blodwen Phillips â H W Jones. South Wales Daily Post 24 Rhagfyr 1919.