Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl dyddiad marwolaeth
Gwynedd Violet Llewellyn
Man geni: Bewdley, swydd Gaerwrangon
Gwasanaeth: Nyrs, VAD
Marwolaeth: 1918/11/03, Rouen, Ffrainc, Influenza / Y Ffliw
Nodiadau: Ymddengys enw Gwynedd Violet Llewellyn yn Llyfr Cofio cenedlaethol Cymru. Yn anffodus, er gwaetha’i henw, nid ymddengys fod ganddi unrhyw gysylltiad â Chymru. Roedd ei chysylltiadau teuluol â siroedd Caerwrangon a Gwlad yr Haf.
Cyfeirnod: WaW0214
Amy Curtis (née Chamberlain)
Man geni: Wolverhampton
Gwasanaeth: Nyrs, VAD, July – November 1918 / Gorff
Marwolaeth: 1918/11/06, Ysbyty Atodol Wallasey, Pneumonia / Niwmonia
Cofeb: Gwersyllt, Sir Ddinbych
Nodiadau: Roedd tad Amy yn gweithio ar y rheilffordd. Symudodd ei deulu o gwmpas canolbarth Lloegr cyn setlo yng Ngwersyllt. Priododd hi James Chamberlain yn 1909 a chafodd ferch o’r enw Lilly. Lladdwyd James ar faes y gad yn Rhagfyr 1917, ac ymunodd Amy a’r Fintai Gymorth yng Ngorffennaf 1917. Bu farw yn 31 oed; gwelir ei henw yn Llyfr Cofio Cenedlaethol Cymru.
Ffynonellau: http://www.clwydfhs.org.uk/cofadeiladau/gwersyllt_wm.htm
Cyfeirnod: WaW0231
Hylda Salathiel
Man geni: Pencoed
Gwasanaeth: Nyrs, chwaraewraig hoci, South Wales Nursing Association
Marwolaeth: 1918/11/06, Caerdydd, Influenza / Ffliw
Nodiadau: Roedd Hylda Salathiel, yn un o saith chwaer ac addysgwyd hi yn Ysgol Uwchradd Penybont ar Ogwr. Hyfforddodd yn Ysbyty Cyffredinol Merthyr. Am gyfnod bu’n chwaraewraig hoci ryngwladol, gan chwarae i dimau Menywod Penybont a De Cymru. Bu’n nyrsio yn Bournemouth am gyfnod, ond dychwelodd i dde Cymru, lle daliodd y ffliw a bu farw bedwar diwrnod yn ddiweddarach. Gwellodd y claf ac anfonodd flodau i angladd Hylda.
Cyfeirnod: WaW0301
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am gêm hoci ryngwladol rhwng Menywod de Cymru a Mynwy a Menywod Munster. Glamorgan Gazette 12fed Chwefror 1909
Aldwyth Katrin Williams
Man geni: Llanbedr-y-Cennin
Gwasanaeth: Nyrs, VAD, 1914 - 1918
Marwolaeth: 1918/11/08, Influenza / Ffliw
Cofeb: Gladdfa St Tudno, Llandudno, Sir Gaernarfon
Nodiadau: Unig ferch rheithor Llanbedr-y-Cennin oedd Aldwyth. Ymunodd â’r VAD yn gynnar yn ystod y rhyfel, a gweithiodd dri niwrnod yr wythnos yn ysbytai’r Groes Goch yn Llandudno, yn coginio a glanhau yn ogystal â nyrsio. 26 mlwydd oed oedd hi pan fu farw.
Ffynonellau: http://historypoints.org/index.php?page=great-orme-grave-aldwyth-williams
Cyfeirnod: WaW0262
Bedd Aldwyth Williams
Bedd Aldwyth Katrin Williams, Eglwys Sant Tudno, Y Gogarth, Llandudno. Llun trwy garedigrwydd Laurence Manton
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am angladd Aldwyth Katrin Williams, Y Clorianydd 27 Tachwedd 1918. Argraffwyd adroddiadau cyffelyb yn Y Cymro a Y Dydd. rn
Lily Jenkins
Man geni: Coety ?
Gwasanaeth: Nyrs
Marwolaeth: 1918/11/28, East Hampstead, Influenza / Y Ffliw
Nodiadau: Ni wyddys fawr ddim am Lily Jenkins, a fu’n nyrs yn Ysbyty Bracknell, East Hampstead am bedair blynedd. Bu farw yn 21 oed.
Cyfeirnod: WaW0348
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am farwolaeth ac angladd Nyrs Lily Jenkins. Glamorgan Gazette 20fed Rhagfyr 1918
Mary Daniel
Man geni: Nantgaredig
Gwasanaeth: Athrawes babanod
Marwolaeth: 1918/12/01, Kimbolton, Pneumonia following influenza / Niwmonia yn dilyn ffliw
Nodiadau: Roedd Mary Daniel wedi bod yn dysgu yn adran iau Ysgol Ramadeg Kimbolton am lain a thymor pan fu farw o gymhlethdodau’r Ffliw Sbaenaidd. Roedd wedi bod yn ddisgybl yn Ysgol Sir y Merched yng Nghaerfyrddin a hyfforddodd ar gyfer ei thystysgrif addysg Froebel yn Llundain.
Cyfeirnod: WaW0459
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am fywyd a marwolaeth Mary Daniel, Carmarthen Journal 13 Rhagfyr 1918
Ada Doris Maud Lesser (Radcliffe)
Man geni: Nova Scotia
Gwasanaeth: Gweithwraig , QMAAC
Marwolaeth: 1918/12/04, ]Ysbyty Milwrol Tidsworth, Wiltshire , Influenza / y ffliw
Cofeb: Cycladdfa Dan-y-graig, Abertawe, Morgannwg
Nodiadau: Ganwyd Ada tua 1879, a symudodd ei theulu i Abertawe. rnPriododd Arthur Charles Lesser yn Rhagfyr 1899. Yn ôl yr adysgrif a rei bed yr oedd yn 36 oed pan fu farw, ond mae’n debygol ei bod yn hŷn na hynny. Diolch i Diana Morgan.
Cyfeirnod: WaW0190
Mary Elizabeth Thomas (née ?)
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel, NEF Pembrey, 1917 - 1918
Marwolaeth: 1918/12/16, Ffatri Bowdwr Pen-bre , Pulmonary oedema / Oedema ysgyfeiniol
Nodiadau: Roedd Mary, 33 oed, wedi bod yn gweithio ym Mhen-bre am tua blwyddyn. Ar 16eg Rhagfyr roedd wrthi’n dangos proses – sut i ddadgydosod sieliau, i gydweithwraig. Yn sydyn ymgwympodd a bu farw yn fuan wedyn. Yn ôl ei gŵr roedd wedi dioddef pennau tost difrifol ers 12 mis, er ei bod yn iach pan adawsai i fynd i’r gwaith y bore hwnnw.
Cyfeirnod: WaW0299
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am y cwest i farwolaeth Mary Thomas, Llanelly Star 21ain Rhagfyr 1918.
Eleanor (or Sarah Jane) Thomas
Man geni: Cwmbwrla
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Marwolaeth: 1919-01-08, Pen-bre, Explosion/Ffrwydrad
Cofeb: Senotaff, Abertawe, Morgannwg
Nodiadau: 'Dangosodd y dystiolaeth i'r ffrwydrad ddigwydd pan oedd Gwenllian Williams yn drilio sgriw o siel. Roedd Eleanor Thomas yn cario siel i mewn pan ddigwyddodd y ffrwydrad.'
Ffynonellau: http://newspapers.library.wales/search?query=gwenllian&page=14; The Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser
Cyfeirnod: WaW0059
Gwenllian (Gwendoline) Williams
Man geni: Cydweli
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Marwolaeth: 1919-01-08, Explosion/Ffrwydrad
Nodiadau: 21 oed. Dangosodd y dystiolaeth I'r ffrwydrad ddigwydd pan oedd Gwenllian Williams yn drilio sgriw o siel. Roedd Eleanor Thomas yn cario siel pan ddigwyddodd y ffrwydrad.
Ffynonellau: http://newspapers.library.wales/search?query=gwenllian&page=14; The Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser
Cyfeirnod: WaW0065