Nodiadau: Gweithiai Gladys (Gwladys – ceir y ddau sillafiad) fel VAD yn Ysbyty’r Groes Goch Danycoed, Abertawe, lle trawyd hi â salwch a drodd yn llid yr ymennydd. Roedd hi’n 28 oed pan fu farw. Roedd hi’n adnabyddus yn Abertawe am nofio yn nhîm polo dŵr y menywod.
Cyfeirnod: WaW0287
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am farwolaeth Gwladys Sails. Cambria Daily Leader 17eg Rhagfyr 1917
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am angladd Gwladys Sails. Cambria Daily Leader 19eg Rhagfyr 1917
Adrodiad papur newydd
Adroddiad o enwau, gan gynnwys enw Gladys, Tîm Polo Dŵr Menywod Abertawe, Evening Express 12fed Hydref 1907.
Ada Maude Cecil
Man geni: Talywaun, Pontypŵl
Gwasanaeth: Nyrs, VAD
Nodiadau: Ymunodd Ada Cecil a’r VAD yn 1917 yn 20 oed. Am ryw reswm roedd ganddi bedair cerdyn y Groes Goch: tair binc ac un wen. Ar y cychwyn nyrsiodd yng Nghymru, ond yna cafodd ei hanfon i Ysbyty Milwrol Seland Newydd yn Weybridge, Surrey a Swydd Stafford. Roedd Ada yn aelod o Eglwys y Bedyddwyr, Pisgah, Talywaun, a chofir amdani ar restr anrhydedd yr Eglwys.
Cyfeirnod: WaW0290
Cerdyn cofnod y Groes Goch
Un o bedwar cerdyn y Groes Goch Ada.
Cerdyn cofnod y Groes Goch (cefn)
Cefn yr un cerdyn, yn dangos y llefydd yr anfonwyd Ada Cecil iddynt.
Rhestr Anrhydedd
Enw Ada Cecil ar Restr Anrhydedd Eglwys y Bedyddwyr Pisgah, Talywaun, Pontypŵl.
Helen Olive Rees
Man geni: Caerdydd
Gwasanaeth: Nyrs, VAD, 1917 - 1919
Nodiadau: Ymddengys i Olive ymuno â’r VAD yn Rhagfyr 1917. Treuliodd y rhan fwyaf o’i gwasanaeth mewn ysbytai morol, yn Chelsea a Chatham. Gwelir ei henw ar Restr Anrhydedd brint Capel yr Annibynwyr Charles Street, Caerdydd
Cyfeirnod: WaW0329
Rhestr Anrhydedd
Enw Olive Rees ar Restr Anrhydedd Capel yr Annibynwyr Charles Street, Caerdydd.
Cerdyn Cofnod y Groes Goch
Cerdyn y Groes Goch ar gyfer Olive Rees VAD
Cerdyn cofnod y Groes Goch
Cefn ail gerdyn y Groes Goch ar gyfer Olive Rees yn dangos ei gwasanaeth yn RNH Chatham.
Olive David
Man geni: Caerdydd
Gwasanaeth: Nyrs, VAD, 15/06/12 – 16/01/14
Nodiadau: Gwasanaethodd Olive David yn bennaf yn yr 26th General Hospital, Etaples, Ffrainc. Gwelir ei henw ar y Rhestr Anrhydedd brint yng Nghapel yr Annibynwyr Charles Street, Caerdydd.
Cyfeirnod: WaW0328
Olive David
Olive David yng ngwisg swyddogol y VAD
cedyn cofnod y Groes Goch
Cerdyn y Groes Goch ar gyfer Olive David o Landaf, Caerdydd
Cerdyn cofnod y Groes Goch (cefn)
Cerdyn y Groes Goch ar gyfer Olive David, Llandaf, Caerdydd (cefn)
Rhestr Anrhydedd
Enw Olive David ar Restr Anrhydedd Capel yr Annibynwyr Charles Street, Caerdydd.
Lily Jenkins
Man geni: Coety ?
Gwasanaeth: Nyrs
Marwolaeth: 1918/11/28, East Hampstead, Influenza / Y Ffliw
Nodiadau: Ni wyddys fawr ddim am Lily Jenkins, a fu’n nyrs yn Ysbyty Bracknell, East Hampstead am bedair blynedd. Bu farw yn 21 oed.
Cyfeirnod: WaW0348
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am farwolaeth ac angladd Nyrs Lily Jenkins. Glamorgan Gazette 20fed Rhagfyr 1918
Maggie Williams
Man geni: Cwmparc ?
Gwasanaeth: Nyrs
Marwolaeth: October / Hydref 191, Chichester, Pneumonia following influenza / Niwmonia yn dilyn y ffliw
Nodiadau: Ni wyddys unrhyw beth am Maggie Williams ar hyn o bryd, ac eithrio’r toriad papur newydd isod.
Cyfeirnod: WaW0347
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am farwolaeth Maggie Williams. Rhondda Leader 19eg Hydref 1918
Mary Jones
Man geni: Aberllefenni
Gwasanaeth: Nyrs
Marwolaeth: 1918/10/15, Ysbyty Brownlow Hill, Lerpwl, Pneumonia following influenza? Niwmonia yn dilyn y ffliw
Nodiadau: Ni wyddys unrhyw beth am Nyrs Mary Jones ar hyn o bryd ond bu farw o gymhlethdodau’r ffliw yn 24 oed.
Cyfeirnod: WaW0346
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am farwolaeth Maggie Williams. Rhondda Leader 19eg Hydref 1918
Hysbysiad o farwolaeth
Hysbysiad o farwolaeth Mary Jones. Y Dydd 21ain Tachwedd 1918
Rosina Lloyd
Gwasanaeth: Nyrs
Marwolaeth: 1918/10/10, Ysbyty Heintiau Pen-y-bont ar Ogwr, Pneumonia / Niwmonia
Nodiadau: Ni wyddys unrhyw beth am Rosina Lloyd ar hyn o bryd ac eithrio rhybudd byr am ei marwolaeth. Yn rhyfeddol, ni chyhoeddwyd hwn am dros fis ar ôl iddi farw.
Cyfeirnod: WaW0345
Rhybudd marwolaeth
Rhybudd marwolaeth Nyrs Rosina Lloyd, Glamorgan Gazette, 15fed Tachwedd 1918
Annie Roach
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: Nyrs, 1914 - December 1915
Marwolaeth: December / Rhagfyr 1, Great Yarmouth, Enteric fever / Ffliw enterig
Nodiadau: Daliodd Annie, a oedd yn 21 pan fu farw, dwymyn enterig oddi wrth glaf o forwr mewn ysbyty heintiau yn Great Yarmouth. Daethpwyd â’i chorff yn ôl i’w gladdu yng nghladdfa Dan y Graig, Abertawe.
Cyfeirnod: WaW0354
Adroddiad a llun papur newydd
Adroddiad am farwolaeth Annie Roach. Herald of Wales 8fed Ionawr 1916
Alice Evans
Man geni: Caerfyrddin
Gwasanaeth: Nyrs, VAD, 1914 - 1919
Nodiadau: Ar y dechrau bu’n gwirfoddoli yn Ysbyty’r Groes Goch yng Nghaerfyrddin, ac yna roedd yn nyrs yn derbyn tâl yn Ysbyty Filwrol Netley, Southampton. Ym Medi 1918 cafodd swydd yn Ffatri Bowdwr Genedlaethol Pen-bre.
Cyfeirnod: WaW0353
Cerdyn cofnod y Groes Goch
Cerdyn cofnod y Groes Goch ar gyfer Alice Evans.
Cerdyn cofnod y Groes Goch (cefn)
Cerdyn cofnod y Groes Goch ar gyfer Alice Evans yn nodi ei gwasanaeth yn Ffatri Bowdwr, Pen-bre.