Gwasanaeth: Nyrs, Not known / anhysbys, 1915 - 1918
Marwolaeth: 1918/10/26, Llundain, Influenza / y ffliw
Nodiadau: Roedd Kate Hopkins yn athrawes addawol, wedi ei hyfforddi yn Stafford trwy ysgloriaeth gan Forgannwg. Dechreuodd nyrsio yn Llundain am Great Western Hospital yn 1915, a bu farw yno o’r ffliw Sbaenaidd yn 34 oed.
Cyfeirnod: WaW0406
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am farwolaeth Kate Hopkins. Llais Llafur 2 Tachwedd 1918.
Lily Stock
Man geni: Pont-y-pŵl
Gwasanaeth: Nyrs, VAD, November 1917 – August 1919
Nodiadau: Gwasanaethodd Lily yn VAD mewn ysbytai ym Mryste a Colchester. Cafodd ei thalu a chododd y tâl o £12 y flwyddyn i £20 y flwyddyn. Gwelir ei henw ar Gofrestr Anrhydedd Eglwys y Bedyddwyr Griffithstown – ddwywaith efallai, enwir Nyrs Stock a Lily Stock. Mae dwy set o gardiau Croes Goch, un yn enw Beatrice Lily Stock ac un yn Lily yn unig. Fel arall mae’r manylion yr un fath.
Cyfeirnod: WaW0416
Cerdyn cofnod yr Groes Goch
Cerdyn y Groes Goch yn enw Beatrice Lily
Cerdyn cofnod yr Groes Goch
Cerdyn y Groes Goch gyda’r enw Lily
Rhestr Anrhydedd Eglwys y Bedyddwyr Griffithstown
Rhestr Anrhydedd Eglwys y Bedyddwyr Griffithstown gydag enwau Nyrs Stock a Lily Stock. Diolch i Gethin Matthews. rn
Emily Charlotte Hill (Panichelli)
Man geni: Penarlâg, Sir y Fflint
Gwasanaeth: Nyrs, SWH, April – December 1915
Marwolaeth: 1970, Achos anhysbys
Nodiadau: Roedd Emily yn nyrs wedi ei hyfforddi, mae’n debyg, yn Ysbyty Elizabeth Garrett Anderson, Llundain. Ar ddechrau’r rhyfel efallai iddi nyrsio yn Ffrainc. Ymunodd ag Uned Mrs Stobart Cronfa Gymorth Serbia, a bu’n nyrsio yn yr ysbyty dan bebyll yn Kragujevac. Daliwyd Uned Mrs Stobart wrth i’r Serbiaid encilio, gyda’r fyddin a’r ffaoduriaid Serbaidd. Ffoasant dros fynyddoedd Montenegro ac Albania ganol gaeaf i’r arfordir lle aeth cwch â nhw i Brindisi yn yr Eidal. Enillodd Fedal ryfel Serbaidd ac Urdd Elusennol Serbia. Yn ddiweddarach yn ystod y rhyfel daeth yn fydwraig, ac yn y 1930au ymddengys iddi hyfoorddi’n feddyg. Diolch i Carol Coles.
Cyfeirnod: WaW0425
Cerdyn cofnod yr Groes Goch
Cofnod y Groes Goch ar gyfer Emily Hill
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am wasanaeth Emily Hill a yn nodi iddi ennill y fedal Serbaidd a’r Urdd Elusennol. Flintshire Observer 21 Hydref 1915.
Rhestr Staff Ysbyty Stobart
Y rhestr o staff ar gyfer Ysbyty Stobart yn Kragujevac. Rhestrir Emily dan ‘Chwiorydd Nyrsio’. Noder enw Mabel Dearmer [qv]. Diolch i Carol Coles.
Nodiadau: Ymddengys i Gwenllian Lewis weithio yn nyrs breifat yng Nghanolbarth Lloegr cyn cael ei galw i ymrestru yn 1914. Treuliodd dair blynedd yn y 5fed Ysbyty Cyffredinol Gogleddol yng Nghaerlŷr cyn mynd i Ffrainc yn 1917. Arhosodd yno tan yn gynnar yn 1919 ac yna dychwelodd i Gaerlŷr. Mae pob un o’i gwerthusiadau blynyddol yn cyfeirio ati yn ‘nyrs dda’ a oedd yn garedig wrth y cleifion. Colli ei bathodyn TFNS oedd yr unig beth wnaeth hi o le, a gorfu iddi dalu am un newydd yn ei le.
Cyfeirnod: WaW0426
Arolwg Blynyddol
Adroddiad blynyddol olaf Gwenllian Lewis cyn iddi gael ei hanfon i Ffrainc.
Tystlythyr
Tystlythyr y TFNS ar gyfer Gwenllian Lewis wrth iddi ymddeol o’r fyddin.
Margaret Walker Bevan
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: Nyrs, QAIMNS
Marwolaeth: 1915 - 1919, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganwyd hi yn Abertawe yn 1883. Hyfforddodd Margaret yn nyrs yn Coventry a gweithiodd wedyn yn Barnsley. Yn gynnar yn 1915 ymunodd â staff yr Ysbyty Milwrol Cymreig, Netley. Cynlluniwyd yr Ysbyty Cymreig i fod yn symudol, ac ymhen dim paciwyd popeth a’i anfon gyda’i staff i Deolali yn India. Gweithiodd Margaret yno, ac ym Mesopotamia, tan fis Rhagfyr 1919. Ar ôl y rhyfel daeth yn Fetron yn Ysbyty Goffa Newydd Farnborough, Surrey.
Ffynonellau: People’s Collection Wales
Cyfeirnod: WaW0429
Llun
Ward yn yr Ysbyty Gymreig, Deolali. Saif Margaret ar y chwith. Diolch i Dave Gordon.
Llun
Margaret mewn ysbyty mewn pabell, efallai yn Basra, Mesopotamia. Diolch i Dave Gordon.
Erthygl mewn cylchgrawn
Disgrifiad o Ysbyty Milwrol Cymreig, Netley. 'The Hospital' 24 Hydref 1914.
Hannah Jane Davies
Man geni: Aberpennar
Gwasanaeth: Nyrs, TFNS, 1918/06/13 – 1919/03/26
Nodiadau: Roedd Hannah Davies yn nyrs dan hyfforddiant yn Ysbyty Milton, Portsmouth pan gafodd ei galw i fyny i Wasanaethu Gartref yn 3edd Ysbyty Cyffredinol Orllewinol Caerdydd, lle cafodd ei dyrchafu’n nyrs staff. Ymddengys iddi ddal y ffliw yn Chwefror 1919, pan y caiff ei disgrifio yn ‘welw’ ac anemig. Efallai mai dyma pam y cafodd ei rhyddhau o’i gwaith ym mis Mawrth 1919. Parhaodd i fod yn gysylltiedig â Gwasanaeth Nyrsio’r Fyddin Diriogaethol (dan ei enw newydd) nes iddi ymddeol yn 1936
Ffynonellau: WO-399-10779
Cyfeirnod: WaW0431
Cofnod crynodeb
Cofnod o waith Hannah Davies gyda’r TFNS
Datganiad o anabledd [rhan]
Anogid aelodau’r lluoedd arfog i lenwi datganiad anabledd wrth gael eu rhyddhau fel y gallent ei ddefnyddio yn dystiolaeth mewn unrhyw gais yswiriant yn y dyfodol.
Zillah Mary Jones
Man geni: Llanpumsaint
Gwasanaeth: Nyrs, TFNS, 1914 - 1919
Nodiadau: Ganwyd Zillah yn sir Gaerfyrddin yn 1870 a hyfforddodd yn Ysbyty St Bartholomew Llundain. Ymddengys iddi weithio yn nyrs breifat am sawl blwyddyn, swydd a olygai fynd gyda chleifion i’r Aifft ac India’r Gorllewin, yna cafodd ei galw i fyny yn 1914 i wasanaethu ar long ysbyty Carisbrooke Castle. Roedd rhai o’r milwyr Cymreig yr oedd hi’n gofalu amdanynt wrth eu bodd i gael rhywun mewn awdurdod oedd yn siarad Cymraeg. Tra yno cafodd ei dyrchafu o fod yn Nyrs Staff i Chwaer. Yn ôl ei hunangofiant, roedd wedi gobeithio ymuno a Gwasanaeth Nyrsio yr RN, ac wedi anghofio iddi arwyddo i fod yn y TFNS. Ym mis Hydref 1915 cafodd ei hanfon i’r 4edd Ysbyty Cyffredinol Gogleddol yn Lincoln, er ei bod yn gobeithio cael gweithio ar long ysbyty arall. Mae’n cofnodi bod yr un a gymerodd ei lle ar y Carisbrooke Castle yn dioddef yn ddifrifol o salwch môr. Tra oedd hi’n Lincoln (lle bu am weddill y rhyfel) cafodd ddamwain ar ei beic a thorri ei bigwrn yn ddrwg. Ceir llawer o lythyrau am hyn yn ffeil y Swyddfa Ryfel. Ar ol cael ei rhyddhau dychwelodd i wneud nyrsio preifat. Cyhoeddwyd ei hunangofiant yn 1964.
Ffynonellau: A Sister’s Log: A Nurse\\\'s Reminiscences. Gomerian Press, 1964
Cyfeirnod: WaW0432
Zillah Jones
Tdalen flaen y Chwaer Zillah Jones yn ei hunangofiant ‘A Sister’s Log’
HMHS Carisbrooke Castle
Gwasanaethodd Zillah Jones ar y llong hon 1914-1915
Adroddiad papur newydd
Adroddiad a nbrofiadau Zillah Jones ar fwrdd y llong.
Adroddiad papur newydd [2]
Adroddiad am brofiad Zillah Jones ar fwrdd y llong [parhad]
Bwrdd meddygol
Un o drafodion y bwrdd meddygol pan dorrodd Zillah Jones ei bigwrn.
Lydia Elizabeth (Bessie) Jones
Man geni: Llanfrothen
Gwasanaeth: Nyrs, 1914/5 - 1919
Marwolaeth: 1942, Achos anhysbys
Nodiadau: Roedd Bessie Jones (ganwyd 1872) yn ei phedwardegau pan dorrodd y Rhyfel allan. Deuai o deulu dosbarth canol mawr, roedd yn cyfrannu at y gymuned (roedd hi’n Ymwelydd Benywaidd â Wyrcws Penrhyndeudraeth) a roedd yn dilyn cwn hela dyfrgwn ei thad. Yn gynnar yn y Rhyfel ymunodd â’r Groes Goch Ffrengig, a gwasanaethodd gyda nhw tan 1919. Yng nghyfnod olaf y rhyfel gweithiai yn anesthetydd yn gweithio oriau hirion dan fomio trwm a difrodwyd ei hysbyty gan shrapnel. Bu’n dyst hefyd i drallwysiad gwaed cynnar. Ysgrifennodd lythyron hir at ei chwaer Minnie Jones [qv], a chyhoeddwyd rhai ohonynt yn y wasg leol. At hyn ysgrifennodd ambell erthygl a gyhoeddwyd yn y Welsh Outlook gan gynnwys Dawn in a French Hospital (Hydref 1916) dan y llysenw Merch o’r Ynys. Cafodd ei hanfon yn olaf i Strasbourg; dychwelodd adre yn Awst 1919. Enillodd y Croix de Guerre am ei gwaith yn ardal Champagne Ffrainc ac hefyd y Groes Filwrol. Ymddengys bod Bessie yn rhugl mewn Saesneg, Cymraeg a Ffrangeg yn ogystal ag yn bianydd dawnus.
Cyfeirnod: WaW0440
Llythyr papur newydd
Llythyr at chwaer Bessie Minnie Jones yn disgrifio trallwysiad gwaed. Yr Herald Cymraeg 2 Ebrill 1918
Llythyr papur newydd
Llythyr at chwaer Bessie Minnie Jones yn disgrifio bywyd newb Ysbyty maes dan fomio cyson, ac o gael ei hamau o fod yn ysbiwraig. Cambrian News 16 Awst 1918 1,
Llythyr papur newydd
Llythyr at Minnie Jones chwaer Bessie yn disgrifio bywyd menw Ysbyty maes dan fomio cyson a c o gael ei hamau o fod yn ysbiwraig. Cambrian News 16 Awst 1918 2.
Welsh Outlook
Dechrau traethawd Bessie Jones (Merch yr Ynys) ‘Dawn in a French Hospital’ Welsh Outlook Cyf 3 Rhif 10 Hydref 1916.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad ar ddychweliad Bessie Jones o Ffrainc, a ‘i pherfformiad mewn cyngerdd. North Wales Chronicle 29 Awst 1919.
Hannah Davies (Hughes)
Man geni: Brymbo
Gwasanaeth: Nyrs, Not known / anhysbys
Nodiadau: Roedd Hannah Davies yn nyrs wedi ei hyfforddi ac efallai iddi wasanaethu yn un o ysbytai milwrol Lerpwl neu Gaer. Pan oedd yno cwrddodd ac yn ddiweddarach priododd y Preifat Joseph Hughes, a ddeuai o ardal Brymbo. Diolch i Nikki Dutton.
Cyfeirnod: WaW0427
Llun
Llun o Hannah (ar y chwith) gyda ffrind yn chwarae tenis. Diolch i Nikki Dutton.
Llun
Llun o Hannah (yn eistedd) gyda ffrind. Diolch i Nikki Dutton.
Hilda Morgan
Man geni: Casnewydd
Gwasanaeth: Nyrs, VAD
Nodiadau: Roedd Hilda yn nyrs wedi ei hyfforddi a gwasanaethodd yn Ysbyty Atodol Baldwin, Griffithstown. Gwelir ei henw ar Restr Anrhydeddau Ebenezer, Capel y Bedyddwyr, Griffithstown. rn
Cyfeirnod: WaW0428
Cerdyn cofnod yr Groes Goch
Cerdyn cofnod y Groes Goch ar gyfer Hilda Morgan
Cerdyn cofnod yr Groes Goch [cefn]
Cerdyn cofnod y Groes Goch ar gyfer Hilda Morgan [cefn]
Restr Anrhydedd
Enw Hilda Morgan, Rhestr Anrhydeddau Capel Ebenezer, Griffithstown. Diolch i Gethin Matthews.