Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl cyfeirnod
Gwenllian (Gwendoline) Williams
Man geni: Cydweli
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Marwolaeth: 1919-01-08, Explosion/Ffrwydrad
Nodiadau: 21 oed. Dangosodd y dystiolaeth I'r ffrwydrad ddigwydd pan oedd Gwenllian Williams yn drilio sgriw o siel. Roedd Eleanor Thomas yn cario siel pan ddigwyddodd y ffrwydrad.
Ffynonellau: http://newspapers.library.wales/search?query=gwenllian&page=14; The Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser
Cyfeirnod: WaW0065
Ellen Myfanwy Williams
Man geni: Aberteifi
Gwasanaeth: Nyrs, 1914 - 1915
Marwolaeth: 1915-01-19, Ysbyty West Bromwich , Achos anhysbys
Cofeb: Senotaff, Aberteifi, Ceredigion
Nodiadau: 26 oed. Claddwyd yng nghladdfa Aberteifi.
Ffynonellau: http://www.wwwmp.co.uk/ceredigion-war-memorials/
Cyfeirnod: WaW0066
Margaret Williams
Man geni: Caergybi
Gwasanaeth: Stiwardes, 1914 - d
Marwolaeth: 1916-11-03, SS Connemara, Drowning / Boddi
Cofeb: Cofeb Ryfel, Caergybi, Ynys Mon
Nodiadau: 32 oed. Suddwyd SS Connemara mewn gwrthdrawiad gyda llong gario glo Retriever. Dwedwyd bod MW ar ei shifft olaf cyn ei phriodas. Ni chafwyd hyd i'w chorff.
Ffynonellau: https://sites.google.com/site/holyheadwarmemorial19141918/home/ss-connemara/margaret-williams-stewardess
Cyfeirnod: WaW0067
Mary Anne Eliza Young
Man geni: Caerdydd
Gwasanaeth: Nyrs, VAD
Marwolaeth: 1919-02-13, 57fed Ysbyty Cyffredinol, Achos anhysbys
Cofeb: Rhestr Anrhydedd Neuadd y Ddinas; Bedd Rhyfel Claddfa Mazargues, Marseilles, Caerdydd, Morgannwg
Nodiadau: 35 oed. Cyn-athrawes yn Ysgol Sir Lansdowne Rd, Caerdydd. Claddwyd hi yng Nghladdfa Ryfel Mazargues, Marseilles.
Cyfeirnod: WaW0068
Rhestr Anrhydedd, Neuadd y Ddinas, Caerdydd
Enw Mary Ann Eliza Young, VAD, Rhestr Anrhydedd, Neuadd y Ddinas, Caerdydd
Mary Ann Eliza Young
Ffotograff o Mary Ann a gasglwyd gan Is-bwyllgor Menywod yr Imperial War Museum fel rhan o’i gasgliad a fenywod a fu farw yn ystod y Rhyfel
Llythyr oddi wrth J R Young
Llythyr oddi wrth J R Young. Tad MAEY. Rhan o ‘Deaths: Nurses Deaths to 1920’ (cofnodion gweinyddol yr Amgueddfa) 1919-04-08
Elizabeth Beatrice Cope
Man geni: Sir Gaerhirfryn, c.1871
Gwasanaeth: Mam
Nodiadau: Trigai Beatrice Cope gyda’i g?r George yn Nhryleg, Sir Fynwy. Cyn hynny roeddent wedi byw yn Sir Ddinbych. Yma gwelir hi mewn ffotograff gyda’i mab ieuengaf George, a elwid yn Eric. Roedd e’n ail lefftenant dros dro yn 2il Gatrawd (1st Tyneside Scottish) Ffiwsilwyr Northumberland. Mae’n debyg i’r darlun gael ei dynnu’n union cyn i Eric gael ei anfon i Ffrainc yn Ionawr 1916. Lladdwyd Eric ar ddiwrnod cyntaf Brwydr y Somme, 1af Gorffennaf 1916. Dim ond 18 mlwydd oed ydoedd.
Cyfeirnod: WaW0069
Elizabeth Hopkins
Gwasanaeth: Gwraig a Mam
Nodiadau: Priododd Elizabeth Hopkins, née Thomas (1882-1959) â David Hopkins (1877-1949) - 8fed Hydref 1905. Tynnwyd y ffotograff tua’r 16eg Tachwedd 1914 pan ymrestrodd David gyda Chyffinwyr De Cymru. Roedd gan David ac Elizabeth bedwar o blant eisoes, 8 oed yn unig oedd yr hynaf, a’r ieuengaf yn 21 mis. Er bod David yn falch ei fod wedi gwirfoddoli mae Elizabeth yn edrych yn bryderus am y dyfodol - a hynny’n ddisgwyliadwy, oherwydd clwyfwyd David yn ddifrifol yn Gallipoli. Ni wellodd e erioed yn llwyr o’i anafiadau.
Cyfeirnod: WaW0070
Clemima Coopey
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel, 1916 - 1918
Marwolaeth: 1918-02-26, Ysbyty Gweithwyr Blaenafon , Industrial Accident / Damwain Ddiwydiannol
Nodiadau: Cafodd Clemima Coopey ei dal mewn peiriant yn nhŷ-peiriant Cwmni Blaenavon Cyf. Roedd yn rhuthro i ddal y trên 9.30 y.h., ac roedd wedi gadael ei hesgidiau yno yn anghyfreithlon. Roedd ei gŵr yn ymladd yn Salonica, ac roedd ganddi dri phlentyn bach.
Cyfeirnod: WaW0071
Edith Haines (Spridgeon)
Gwasanaeth: Tocynwraig
Nodiadau: Edith Haines oedd un o’r tocynwragedd bws cyntaf yn Abertawe
Cyfeirnod: WaW0074
Edith Haines (née Spridgeon, ar y dde), gyda Maggie (anhysbys, ar y chwith) a Nellie Williams (née Spridgeon, chwaer Edith) yn y canol
Arvona (Fona) Powell Jones
Man geni: Gorseinon 10fed Gorffennaf 1913
Gwasanaeth: Plentyn
Nodiadau: Cadarnhaodd Fona ei chyfeiriad a’i dyddiad geni: Gorffennaf 10fed 1913. Adroddodd stori am ei mam adeg y Rhyfel Byd Cyntaf yn gofyn iddi, pan gafodd ei thad ‘call-up’, ‘ Ych chi ddim am i’ch tad fynd i ryfel ych chi?’ a hithau’n ateb ‘Ww - ydw!’ achos roedd hi wedi gweld ei hwncwl – ac yntau ar y môr - mewn iwnifform a chwisl am ei wddwg. Credai y byddai ei thad felly yn cael chwisl ac iwnifform hefyd. Felly roedd wrth ei bodd i feddwl y byddai ei thad yn cael iwnifform a chwisl. Ond mae’n cofio wyneb ei mam yn cwympo ‘O! oedd hi’n siomedig ofnadw bo fi wedi gweud bo fi’n moyn i 'nhad fynd i ryfel.’ Ond roedd ei thad yn gweithio yn y gwaith dur ac roedd angen dur adeg y rhyfel ac felly yno fuodd e drwy’r rhyfel. Ond roedd ei thad yn gweithio yn y gwaith dur ac roedd angen dur adeg y rhyfel ac felly yno fuodd e drwy’r rhyfel.Enwau ei rhieni oedd Mary Ann Powell a Richard Jones; ei thad o Gydweli a’i mam o ardal Gorseinon. Bu ei thad yn gweithio yn y gwaith dur yng Nghydweli hefyd.Sonia hefyd am wncwl iddi, Brynmor, oedd yn y llynges ond roedd yn gas ganddo’r rhyfel. Ar derfyn y rhyfel rhoddodd e’i ddillad llynges i’w mam a dweud wrthi am wneud beth fynnai hi â nhw. Gwnaeth hithau ffrog i Fona o’r bell-bottoms - o ‘serge’ ac ychwanegodd flodau yn addurn. Byddai’n ei gwisgo drwy’r amser - i’r capel a phopeth. Roedd hi tua 5-6 oed ar y pryd. Mae’n cofio ei gwisgo a siglo ar gangen colfen ynddi. Collwyd brawd ei mam (Tom – 1915 o restr achau’r teulu) yn ystod y Rhyfel – o deiffoid pan oedd yn Crystal Palace. Mae llun ganddi o briodas adeg y Rhyfel a’r dynion mewn du i gyd i’w goffáu. Cafodd brawd arall ei mam (Baden) ei alw i fyny ond pan gyrhaeddodd y lle bwyta roedd platiau yn hedfan ar hyd y lle oherwydd roedd y Cytundeb Heddwch newydd gael ei arwyddo. A dyna’r cyfan welodd e o’r rhyfel. Cofia Fona hefyd sut y bu i’w mam, dros gyfnod y rhyfel, symud y model o eryr a oedd ar ben cloc tad-cu’r teulu a’i storio mewn dror, gan ei fod yn symbol ac atgof o’r Almaen. Ar derfyn y rhyfel rhoddwyd yr eryr yn ôl yn ei le priodol ar ben y cloc! rn ‘Mae cof yn beth od on’d yw e!’
Ffynonellau: fona_jones_gorseinon.wave_sound
Cyfeirnod: WaW0075
Priodas deuluol yn dangos Fona Jones yn aneglur ar y chwith rhes flaen.
Priodas deuluol yn dangos Fona Jones yn aneglur ar y chwith rhes flaen. Mae’r dynion i gyd mewn du i fwrnio marw ewyrth Fona, Tom a fu farw yn 1915